wyd o'r blaen mewn pethau gwleidyddol lwyred ein dibyniad ar ei gilydd. Ni amcanwyd yng Nghymru sgrifennu hanes cref- ydd yngoleu datblygiad y teimlad crefyddol ei hun, chwaithach yngoleu'r datblygiad cymdeithasol a'r datblygiad ar egwydd- orion cyffredinol. Gorchestwaith fyddai'r cyflawniad teilwng ar hynny. Nid yw'r cais a wneir yn rhannau arweiniol y gwaith hwn, neu'n achlysurol wrth egluro nodweddiad dynion neill- tuol, ond rhyw fraenaru ychydig gwysau ar dir clapiog. Fe wyddis yr huna yn guddiedig yn sugn y pren flagur ddigon er cuddio'r pren hwnnw dymor ar ol tymor à cheinder, ac er llanw'r awyrgylch o'i ddeutu dymor ar ol tymor à pher- â sawredd. Mae'r rhinwedd mewn pren neu ddyn yn gyfryw, ped agorid y ddor guddiedig, à lanwai holl synnwyr y pen â lliwiau a phresawr. Nid yw'r Daioni y sonia Morgan Llwyd amdano ar ddihun eto nemor. Fe'i gwelir weithiau yn rhyw ymystwyrian mewn lleoedd annisgwyliadwy. E fyddai Evan Jones ar dro yn seiat Moriah neu fannau eraill yn sôn am Dic Small, un o gymeriadau heolydd dinas Bangor. Pan wedi myned heb geiniog ar ei helw, elai Dic Small at fanc Aaronson, a sythai ei hunan yno yn erbyn y mur, gan ddywedyd yn glywadwy, er megis rhyngddo ag ef ei hun,-"Wel, mae gan Dic Small ddigon wrth i gefn rwan!" Gwanc y cylla oedd yn cyffro Dic Small; eto, o dan hynny, ac yn rhoi cyfrif am ei ddull dieithr o weithredu, yr oedd yno hefyd, ym mha lun anelwig bynnag, ryw ymdeimlad â rhyw gyflawnder yn rhywle, pe gall- esid ond dod o hyd i'r agoriad iddo, a lwyr ddiwallai'r angen yng nghalon aflonydd dyn, ag nad oedd yr aflonyddwch hwnnw. ei hunan ond effaith iddo. E fynn y dyn ddod i'r golwg ym mhawb yn rhyw fodd neu'i gilydd, pa un a gaiff ymagor ym- hellach neu beidio wrth ei ddeddf gynhwynol ei hun. Pang- feydd gwewyr esgor yw ebychiadau aflonydd y galon; y Fam- aeth yw'r Ysbryd sy'n derbyn y Dyn Newydd i'r byd. Ond nid yw'r arluniaeth berffeithiedig ddim eto, hyd nes gwelir ar orwel y fuchedd dragwyddol gorff dadeni dyn.
Fe geir yn yr hanes yma ryw gymorth i sylweddoli unoliaeth yr eglwys, a thros ben hynny unoliaeth dyn; nid y dyna yma neu'r dyn acw, ond dyn fel y cyfryw yn ymddeffro yn yr eidea ddwyfol yn y dyn Crist Iesu, ag mae pob byw a bod o'i mewn ac er ei mwyn. Fe ddywedir yn Sartor y buasai'r cnicht ia yn wyrth i'r brenin Seiam Is-Ellmynnig hwnnw a anghredai yn y