Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fath beth. Ond y gamp, wedi'r cwbl, yw canfod y wyrth yn y cnicht ia er bod yn hen gynefin âg ef. Mae gwyrth yr eidea ddwyfol o flaen ein llygaid yn unoliaeth teulu dyn yng Nghrist Iesu'r Arglwydd.

Fe dybir ddarfod rhoi'r enw Bangor, sef prif gòr, a chôr o fynachod a ddeallid, ar y ddinas ar ol dymchweliad Bangor is y coed yn nechreu'r seithfed ganrif. Deiniol, fe ddywedir, oedd yr esgob cyntaf. Er ei gwanhaniaethu e fuwyd yn ei galw yn Fangor Ddeiniol neu Fangor Fawr yn Arllechwedd neu Fangor Fawr uch Conwy. Yr oedd yma cyn dymchwel y Bangor arall ysgol eglwysig a thref. Yn fwy diweddar, yn ol traddodiad, fe gladdwyd Gruffydd ap Cynan yma yn 1137 a'i fab Owain Gwynedd yn 1169. Ni wyddis fod hynny, na'u hanes hwy, wedi gadael unrhyw ddylanwad neilltuol ar y lle ei hunan. Fe ddywedir ddarfod llosgi'r hen gathedral gan Owein Glyndwr yn 1404, a darfod adeiladu'r cathedral sydd yma yr awron gan Esgob Dennis yn nheyrnasiad Harri'r Seithfed. Yr hyn a wnaeth ei argraff annileadwy ar feddwl y Cymro ydoedd nad eisteddodd, fel y dywedir, yr un Cymro a fedrai'r iaith yn y gadair esgobol ar ol John Evans, a symudwyd i'r Iwerddon yn 1715, hyd esteddiad Daniel Lewis Lloyd yn 1890, sef cyfnod o 175 o flynyddoedd. Gellir gweled yn llythur Gor- onwy Owen amseredig Awst 10, 1753, pa mor ddwfn dan y croen yr oedd y diystyrrwch yma eisoes wedi myned. Yr oedd Richard Morris wedi gwneud rhyw gyfeiriad chwareus at weled Goronwy Owen yn esgob Bangor. Ei ateb yntau ydoedd: "Ie, fi'n esgob Bangor? Cynt y rhown goel ar y brut sy'n addo dyfodiad Owain Lawgoch a'i orfodawglu nag y disgwyl- iwn weled byth Gymro uwch bawd na sawdl mewn unrhyw ragorbarch gwledig nac eglwysig." Yr oedd yr wythfed estron yn y gadair er amser John Evans pan sgrifennwyd hyn. Ar ol hynny drachefn, ac hyd amser yr Esgob Lloyd, fe eistedd- odd naw estron arall.

Mae'r eglwys gadeiriol yn gysegredig i Ddeiniol Sant, ac eglwys Aber i Fodfan Sant. Capeloriaeth yw'r Penmaenmawr ym mhlwy Dwygyfylchi. Plwy yng nghantref Aber yw Caer- hun, a'r eglwys yn gysegredig i Fair Santes. Mae'r Felinheli ym mhlwy Llanfair is gaer ger Caernarvon.