Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

maenmawr. A distaw lonydd yw'r awyr oddieithr am ru didor y Gonwy fel yr ymdyrr ar wely'r eigion.

Nid anghyffelyb i soned Sotheby y llun a dynnir gan y bardd Cymreig yntau ymhen deng mlynedd a thrigain wedi, er mewn arddull fwy barddonol:

Rhwng Môn ac Arfon . . .
Mwyn nawsaidd mae yn nosi . . .
Ai'r hen fôr tawdd rhinfawr, teg
Ystum, yw'r Fenai lasdeg? . . .
Y ganaid loer a'i gwên dlos
Orlona yr oleunos:
Eurgnufiau'n gymylau mân
Ddillynant arddull anian;
Mae'r nef wen uwch llen y llif
A'i delw ar y dylif; . . .
Hardd wyneb holl "werddonau
Llion" hên sy'n llawenhau;
Gwlad yr hud mewn gloewder hawdd
O gêl annwn disgleiniawdd; . . .
. . . fry mae nef yr Ion,
Obry nef ar wybr Neifion;
Nef sylweddol freiniol fry,
Abred hudolus obry. (Cynddelw).

Ac o lanau Món neu ganol Môn mae mynyddoedd Arfon yn ymgyflwyno mewn perthynas newydd â'i gilydd ac yn un cyfangorff newydd o ryfeddod, yn newydd o ran llun a lliw, yn newydd o ran awyrgylch, yn newydd yn undod eu rhyfeddodau ac yn eu hawgrym am y gogoniant a ddatguddir. Yr oedd Dafydd Morgan, ymhen blynyddoedd ar ol y diwygiad, oddiar ddaear Môn yn syllu ar yr olygfa hon, ac yn y man ebe fe wrth y gwr a gyd-gerddai âg ef,—"Mi welais i adeg, pe teimlaswn i'r cymhelliad i hynny yn fy meddwl, y gallaswn i ddywedyd wrth y mynyddoedd acw,—Symudwch oddiyma draw, gan gredu y symudent." Mae'r olygfa dan ei gweddnewidiad ym mhrofiad dyn.

Mae teithwyr ar hyd y ffordd y sonir am dani yma wedi gadael eu hargraffiadau inni am yr olygfa, a rhyw gyffyrddiad neu'i gilydd weithiau am y bobl. Am naw ar y gloch y bore, Awst 22, 1797, y cychwynnodd Richard Warner o'r King's Head yng Nghaernarvon, wedi mwynhau gwely esmwyth i gysgu, sef peth na chafodd, ebe fe, o fewn taith can milltir hyd