meddal fy nghlust. Cyffelyb ydoedd i godiad awel a chwyrlia i ddechre gol yr ysgellyn, ac yna a ehêd yn gysgod tywyll dros y gwelltglas.'" (Llythyrau ix. a x.). Hyd yma Warner. Fe aethpwyd ynghydag ef fymryn dros derfynau'r hanes hwn, er cyfleu yr hyn y gwyddis a oedd i'w gael yr un fath o fewn y terfynau. Fe grynhowyd y geiriad mewn mannau, pan fernid y gallesid gwneud hynny er budd ac nid er niwed.
Yn y gwesty ym Mhorthaethwy, ar ei daith o Gymry i Gaernarvon yn 1798, y clywodd Bingley am y tro cyntaf yng Nghymru seiniau'r delyn i'w ddiddanu. Ac am benillion eraill o eiddo Bardd Gray y meddyliodd efe wrth wrando, fel yr adroddir ganddo. Petae wedi myned i westy'r Red Lion yng Nghaernarvon yn lle'r Uxbridge (y Royal wedi hynny), gallasai fod wedi clywed chwareu'r delyn yno gan wraig y tŷ neu ei merch, sef disgynyddion Angharad James o'r Gelli ffrydau oeddynt hwy, a chlybuwyd chwareu'r ferch honno ymhen llawer blwyddyn wedi hynny.
Er hynny, fe ymddengys fod chwareu'r delyn y pryd hwnnw ar ddiflannu yng Nghymru; ac nid annhebyg mai Methodistiaeth yn bennaf oedd yn gyfrifol am hynny. Cysylltiadau'r chware, sef yr yfed i ormodedd, a'r canu maswedd achlysurol mae'n ddiau, a barodd casau hyd yn oed y wisg a halogid gan y cnawd. Ond eithaf teg cymeryd golwg mor lawn ar y pethau hynny ar a ellir, yn enwedig gan mai cyfle prin sydd i hynny. Yr oedd Wyndham yng Nghonwy yn 1774 (A Tour through Wales, 1775, t. 160), ac nid annhebyg mai'r un telynor a Warner a glywodd efe. Ac er bod ychydig o'r tuallan i'r terfyn, yr ydym o hyd yn Arfon. Dyma gipdrem arall ynte ar yr hen fyd difyr. "Gan fod ffair Caer yn dynesu yr oedd gwestai Conwy wedi eu llenwi â marchnadyddion lliain o'r Iwerddon; a chan nad oedd yno ddigon o welyau i'r cwmni i gyd, darfu i barti helaeth ohonynt, yn yr ystafell nesaf i'm hystafell wely i, aberthu'r noswaith nid yn anewyllysgar i Bacchus. Yr oedd melodi telynor dall, ynghyda chaneuon Cymreig morwyn y gwesty, yn cynnal yr yfed, yr hwn, er fy mawr foddhad, ni thorrid arno gan ddwndwr na dadwrdd. Hwn oedd yr unig delyn a glywais yn y dywysogaeth. Yr oedd yr offeryn a'r llais yn llwyr ddymunol, ac mor hyfryd i'm teimlad oedd y melodi cwynfanllyd a thrwyadl Gymreig, fel na alarwn am dorr cwsg