Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fath honno ryw ddeuddydd cynt, a fuasai yn anocheladwy wedi ein hysgubo i'r môr pe digwyddasai inni fod yn rhywle o fewn ei gyrraedd. Yr alanas a wnaeth oedd y prawf o rym yr anferth ryferthwy. . . . . Mae'r ffordd oddiyma i Gonwy yn hir ddisgynfa, a golygfa barhaus ar glogwyn a mynydd dan o fewn rhyw filltir i'r dref, pan, â throad sydyn i'r dde, dyma olwg ar y dref a'r cylch a'r adfail ardderchocaf yn y deyrnas, sef y castell ardderchog. Ni gyrhaeddasom yma erbyn wyth ar y gloch, gan droi dan arwydd y Bwl. . . . . Merched yn ddieithriad sy'n gweini yn y tafarnau Cymreig, nid dynion. Mae'r ddwy eneth a wasanaetha yma cyn glysed a'r houris [sef meinir Paradwys Mohamed yw'r houri], a chan sirioldeb a symledd rhoddant awch chwanegol at y danteithion a arlwyir o'n blaen gan ein lletywraig groesawgar. Yma yn gyntaf y clywsom y delyn, ac yma o bobman y clywem ei seiniau gwych i'r fantais oreu, canys yn y gymdogaeth hon y mae'r fangre a ddewisodd y bardd Gray i'w ddisgrifiad arddunol o'r telynor:

Ar aelgerth craig, yr hon sydd yn gwgu
Dros ddylif crych-ewynog hen Gonwy,
Wedi ymwisgo yng ngalarwisg gwae,
Yn drist ei dremwedd, y safodd y Bardd;
(Ei farf ydoedd hirllaes, a'i wallt briglas
Yn chwarae yn y gwynt) a gyda llaw
Athrawaidd, a gyda gwres proffwydol,
Y cyffyrddodd â'i ordristlawn delyn. [Cyf. Dafydd Ddu.]

Hen wr penwyn, parchedig a chwareuai inni, ac yr oedd yn chwareuwr celfydd. Offeryn trithant oedd yr eiddo. Mae'r alawon Cymreig ynghyda chyffelybrwydd amlinelliad yn meddu, hefyd, ar amrywiaeth prydwedd. Fe'u gwahaniaethir oddiwrth alawon gwledydd eraill yn eu symledd odiaethol yn gyfunedig â gwreiddiolder gwylltnaws, ac mae'r elfen doddedig a'u nodwedda yn peri bod ynddynt effeithioldeb neilltuol. Ni gawsom donau llawn ysbryd ac asbri wedi eu hamrywio â mesurau cwynfanllyd Dafydd y Garreg Wen ac â melodi dwys, galarnadol Morfa Rhuddlan. Prin yr oedd hûn cwsg wedi cloi ein hamrantau y noswaith ddilynol yn y Cernioge, pan ddeffrowyd ni gan nodau dwys, cwynfanllyd y delyn. Mi a'i cymherais i antur o eiddo Ossian: 'Yn y llys mi orweddais y nos. Nid oedd cwsg wedi cloi fy emrynt yn llwyr. Cyrhaeddws melodi