Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wnaethpwyd yr amrywiad ym maint y llechi yn 1746. Cyn hynny yr oeddynt yn fychain ac agos o'r un maint. Yr adeg honno fe wnaethpwyd llechi o ddwbl yr hen faint, a galwyd hwy yn doubles, yr hen lechi yn myned wrth yr enw singles. Ryw gymaint yn ddiweddarach fe ddwblwyd y doubles, gan eugalw yn double doubles. Yn ol hynny, fe wnaethpwyd maint mwy eto, a galwyd y rhai hyn yn countesses gan y Cadfridog Warburton, perchennog stad y Penrhyn, a'r double doubles a alwodd efe yn ladies. Wedi hynny fe ddaethpwyd a maint arall mwy eto i arfer, a galwyd hwythau yn duchesses a queens.] Ymwelodd, hefyd, â gweithfa'r llechi seiffro neu gyfrifon gerllaw, a disgrifia'r gorchwyl o'u paratoi i'r farchnad. Dodid llestri geirwon y chwarel ar ymyl plaen haearn wedi ei gyfleu yn syth ar i fyny, gan eu torri â math ar fwyellan i'r maint a fynnid; yna cymerid hwy i'r crafwr, ac â dernyn bychan o ddur teneu fe dynnai yntau ymaith unrhyw haenau darniog arnynt, gan eu gwneuthur yn wyneb gwastad; yna fe'i llyfnheid â charreg lefn; wedi hynny fe'i cabolid â dwfr a llwch llechi; ac wedi eu steinio â dyfrlliw du a'u fframio fe'i cyfleid ynghyd yn deisi deuddeg dwsinau ar gyfer eu hallforio. Y maint mwyaf yn £5 y deuddeg dwsin; y lleiaf yn £2 6s. Gwerthid y llechi hyn yn rhatach nag eiddo'r is-Ellmyn ar yr un pryd ag yr oedd y deunydd yn well. Yr oedd llechi'r is-Ellmyn yn eirwon, a'r lliw heb fod ond symol ar un ochr, tra'r oedd eiddo'r Cymru. yn llathraidd a'r lliw cystal ar y naill ochr a'r llall. [Oddeutu 300 a weithiai yn y chwarel oddeutu 1792 yn ol N. Owen.]

Methu ganddo ddod o hyd i'r "afaleu pren" ar y Penmaenmawr, sef ffrwyth nid annhebyg i'r lemon, y dywedid ei fod yn tyfu ar ben y mynydd.

Dyma'r diffygion a nodir gan John Evans ynglyn âg amaethyddiaeth: diffyg braenaru, diffyg trychu a llosgi, esgeuluso corlanu defaid, diffyg lleoedd caeedig ac adeiladau, prinder gwahanol fath ar dail a defnydd diffygiol o'r hyn a feddiennid, a phrinder gweir-gloddiau dwfr.

Fe ddywed fod pobl wedi bod mewn ysgolion yn Lloegr y pryd hwnnw yn gwadu'r Gymraeg, a thybia y gwnae dylanwad y rhai'n ar eraill beri colli'r iaith yn y man a'r nodweddion cenedlaethol. Fe ddywed fod ymhlith y bobl fath ar gynddaredd am brydyddu a datganu. Rhydd ddwy enghraifft o benillion telyn: