Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heibio i Borth Penrhyn. Fe welir wrth y cei yno yn fynych o 20 i 30 o longau, yn cludo o 40 i 300 tunell. Pan gludid y cerrig o Nant y Ffrancon yma mewn ceir fe delid pum swllt y dunell, ond fe'u cludir bellach ar y llinell haearn am swllt y dunell. Yr oedd traul y ffordd newydd hon yn bum mil o bun- nau." Hyd yma Edward Pugh.

Cymharer yr hyn a ddywed Cliffe (Book of North Wales, 1850) am ardal yr Aber: "Un o gampau mwyaf swynfawr natur mewn lliw a llun."

Mymryn eto allan o Roscoe, y cyhoeddwyd ei lyfr yn 1853: "Mae'r côr o hyd â rhagoriaeth dileihad yn tywallt ymdoniadau cynghanedd lawn, gyfoethog, i lawr hen ystlysau'r cathedral; a chaiff y pererin, a fwynhaodd, megis y gwnaethum i, ei Saboth orffwys ger y ddinas, ei feddwl a'i galon yn rhwym yn y gwasanaeth, os clyw efe anthem wech Purcell,—Ni ddiolchwn i ti, ô Arglwydd, neu ynte offeren dyner y Dr. Calcott, —Gwyn eu byd y meirw. Mae gwasanaeth Cymraeg y bore yn diweddu am 11, a'r Saesneg drachefn yn dechre ymhen yr hanner awr. Mae'r gynulleidfa frodorol yn fawr, yn barchus ac yn ddefosiynol. Gwedi myned ohoni allan, mi aethum i mewn i'r cathedral, a gwelwn olygfa hynod ar y gofalwr yn prysuro o sêt i sêt â mop mawr yn ei law, gan ymddangos yn ei arfer â manylder a deheurwydd nas gallasent fod yn ddim amgen nag effaith hir arfer. Mi ymholais am yr achos o hynny, a dywedai wrthyf fod y Cymry yn arfer eu hunain gymaint i boeri i bob cyfeiriad, fel yr ydoedd yn gwbl angenrheidiol cymeryd y dull hwnnw o lanhau'r lle ar ol pob gwasanaeth o'r eiddynt. Yr oedd wynebau difrif yr addolwyr yn eu cynhulliad cysegredig a welais ychydig cynt, ynghyd â gwaith y gofalwr efo'i fop, yn eithaf eglurhad ar y diarhebair am y difrif a'r digrif fel cymdeithion agos eu trigias i'w gilydd. Mae'r ffordd i Gaernarvon yn ymganghennu o'r Bont Fenai tua'r de, gan ffurfio mewn rhai mannau linell waelod i lun hanner-cylch yr afon ddolennog. Nid yw'r pellter ond wyth milltir, a gelwir hi'r hen ffordd i'w gwahaniaethu oddiwrth y ffordd fwy diweddar a llai arluniol o Fangor. Rhed ffordd haearn o'r Felin heli i'r chwareli ger Llyn Llanberis."

Ond dyma Roscoe yn dychwelyd yn ol eto, ar ol croesi drosodd yn yr ysgraff o Beaumaris. "Ni gerddasom dros Draeth y Lafan i Aber, pellter o tua phedair milltir. . . . Mi ddilyn-