Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Uchelgaer uwch y weilgi,—gyrr y byd
Ei gerbydau drosti:
Chwithau, holl longau y lli,
Ewch o dan ei chadwyni.
(Dewi Wyn).

Mawrfri campwri pen,—bwa yn nef
Uwchben afon frigwen;
Aerwy abrwysgl ar wybren,
C:enghlau wnaed yn cynghloi nen.
(Eryron Gwyllt Walia).

Wedi gorchfygu'r bwgan ar y Penmaen, dyna'r angel gwarcheidiol yn tywys y ffordd haearn, a dynnwyd eisoes drwy galon y graig, dros y Fenai hefyd. Fe gyrhaeddodd Fangor erbyn 1847. Tywyniad ysgydwad aden yr angel yn ymenydd Robert Stevenson a oleuodd lwybr y ffordd haearn dros y Fenai. Fe'i gelwid yn Bont Frydain oblegid dodi sylfaen un o'i cholofnau ar Graig Brytania, sef ynys fechan a elwid felly. Robert Stevenson ei hun a roes y rhyfed diweddaf yn y Bont, Mawrth 5, 1850. Yr oedd y Deon Cotton yn y cerbyd prawf cyntaf a aeth drosodd. Cyn cychwyn, gofynnwyd iddo gan wr eglwysig, onid oedd arno ofn? Atebwyd ef gan y Deon, os nad ae yn ddiogel drosodd, yna—"I shall leave the Deanery open to you, and I shall get into the see [sef yr esgobaeth] by descent."

Ond dyma George Borrow heibio ar droed yn haf poeth 1854, gan daflu goleu ar draddodiadau a dull meddwl dyn. Mae'r dyfyniad a roir yma yn perthyn yn briodol i'r hanes hwn mewn dwy gyfrol, sef hanes dosbarthiadau Bethesda a Bangor; ond fe'i rhoir yma yn un llinyn gyda'i gilydd, gan na oddefai cystal ei dorri yn ddau. Mae'r wê, y tro yma, braidd yn feinach nag arfer mewn mannau; ond, fel ag y mae, fe debygir y bydd yn ameuthun i ddarllenwyr cyfyngedig i'r Gym— raeg, neu i rai o'r cyfryw :

"'Pa beth yw enw'r afon yn ymyl yma?' 'Fe'i gelwir y Gonwy, syr.' Aië, a dyna'r afon Gonwy?' 'Yr ydych wedi clywed am dani, syr?' 'Clywed am dani! dyna un o afonydd clodfawr y byd! Mae'r beirdd yn dra hoff ohoni—mae un o feirdd mawr fy ngwlad i yn ei galw'r hen Gonwy.' A ydyw un afon yn hŷn na'r llall, syr?' 'Dyna gwestiwn ffel. Fedrwch i ddarllen?' 'Medraf, syr.' 'A oes gennych lyfrau?'