Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fryniau caregog a ddisgyn i lawr oddiwrth fynyddoedd Eryri. 'Y fath fau,' ebr fi, 'am brydferthwch mae'n rhagori ar Naples glodfawr. Eithaf man i'r llongigau hynny gychwyn oddiwrtho a gawsont eu ffordd heb gymorth cwmpawd ar fôr eang, llawn dirgelwch, y Gorllewin. . . .

"Mae yn yr iaith Gymraeg englyn a rhagfynegir ynddo deithio drwy gyfrwng ager yng Nghymru a Môn. Ac er na sonir ynddo am bont y ffordd haearn dros y Fenai, gellir dywedyd ei bod yn gynwysedig, fel y mae gan Gymru a Barddas gyfartal achos i ymfalchio

Codais, ymolchais ym Môn, cyn naw awr
Ciniewa'n Nghaerlleon,
Pryd gosper yn y Werddon,
Prynhawn wrth dân mawn ym Môn.
(Dafydd Ddu).

Mae'r englyn hwn yn y Greal am 1792 [1805], t. 316. Dengys yr ieithwedd mai cynnyrch canol yr eilfed ganrif arbymtheg ydyw. [Tebyg mai Dafydd Ddu o Hiraddug a feddylir yn y Greal, a oedd yn oesi yn y bedwaredd ganrif arddeg. Tybir gan rai mai efe oedd gwir awdwr rhai o leiaf o'r dyfaliadau a briodolir i Robyn Ddu yn y bymthegfed ganrif.]. . . . Fe brawf yr englyn fod yr awdwr yn berchen yr eildrem. Rhaid fod rhyw hen fardd yng ngweledigaeth yr eildrem wedi canfod pont y ffordd haearn, a ffigyr cwbl gyffelyb i'r eiddo'i hun yn eistedd yn gomforddus mewn cerbyd trydydd gradd. . . .

"Aethum i'r un gwesty ym Mangor ag y bum ynddo o'r blaen [sef yr Albion]. Yr ydoedd yn nos Sadwrn, a'r tŷ yn orlawn o bobl wedi dod gyda'r trên o Fanceinion a Nerpwl â'r bwriad o dreulio'r Sul yn y dref Gymreig. Mi gefais dê mewn ystafell ginio neu ddawnsfa fawr, ac yr oedd y lle mor llawn o ymwelwyr fel yr oedd chwys ar y parwydydd. . . . . Mi gyfarchais amryw bersonau, a phob tro mi gefais achos edifeirwch: ni chefais ateb yn y byd oddiwrth rai, oddiwrth eraill yr hyn oedd waeth-ym mhob wynepryd yn fy ymyl amheuaeth, cieidd-dra neu hunandyb wedi eu hargraffu yn eithaf amlwg— nid oeddwn ymhlith y Cymry, ond ynghanol sorod Lloegr weithfäol.....

"Dyma hi'n Sul, ac yr oeddwn ar y cyntaf wedi bwriadu treulio'r diwrnod ym Mangor, gan ddilyn y gwasanaeth ddwy-