Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swylio ym mhorthladd y môr. Ychydig yn is i lawr y mae Pont Fenai. Ond mae'r greadigaeth o'i chwmpas mor addurn. edig fel y mae holl gelfyddydwaith dyn yn encilio yn ôl yn wylaidd ac yn ddistaw i'r cysgod tragwyddol. Tu draw iddi mae'r clogwyni clysion a siriol fel yn gwenu. Tu yma i'r afon mae'r mynydd mawr yn ymddyrchafu i'r cymylau yn fawreddig ac ofnadwy, ac yn taflu golwg ddiystyrllyd ar Brunel [Telford gynlluniodd Bont y Fenai a Stevenson y Bont haearn] a'i gawell frwyn. Rywfodd mae'r olwg ar grefydd yn y bryniau [yn Arfon] yn ieuengach, yn ireiddiach, ac yn fwy bywiog [nag ym Môn]. Y mae capelau'r Ynys, oddieithr ychydig, yn rhy hen, a rhy drymaidd ac yn rhy ysguboraidd; tra yn Arfon y mae'r rhan fwyaf yn newyddion, yn fawrion ac yn hardd. Bellach, ffarweliwch fröydd a bryniau! Yn un o drefi Lloegr canfuasom angel mawr Talsarn yn dechre ysgwyd ei blu, a darpar i ledu ei adenydd, dros siroedd Mynwy a Morgannwg â'r efengyl dragwyddol ganddo. Gwelsom ef yn agos i dref Henffordd yn ehedeg gyda chyflymder a nerth aruthrol. Nid yw'n caru son am ddamnio'r byd, ond bloeddia o hyd fod digon of rinwedd yn yr hwn a fu farw i'w lanhau oddiwrth bob pechod." Hyd yma Edward Matthews.

Bu i draddodiadau gynt, yn niffyg dylanwadau eraill, eu dylanwad ar nodwedd y bobl. Addawodd Sion Wmffra gynt gyfarfod Ann Tomos y Creuddyn mewn gwylmabsant. Ar y ffordd cwympodd Sion dros lethr y Penmaenmawr i ddyfnder dychrynllyd heb golli hoedl; a boddodd pawb ond Ann wrth groesi'r Gonwy mewn ysgraff. Priododd y ddau; buont ddedwydd yn ei gilydd; cyrhaeddasant oedran teg; a chladdwyd hwy fwy na dau gant a hanner o flynyddoedd yn ol ym mynwent Llanfairfechan. Dyma lawysgrif rhiangerdd ar y pwnc wrth law, sef y rhiangerdd wobrwyedig yn Eisteddfod Llanrwst, 1878:

A llawer traddodiad deniadol ei liwiau
A wlychodd y wyneb, a doddodd y fron.
Draw acw mae'r Creuddyn.
Mor ddinôd ei olwg a thawel ei lun,
Er hynny traddodiad a'i allu gor-swynol
Briododd y pentref âg Amser ei hun! . .
Text