Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'u beddau hwy hyd heddyw welir draw
Ym mynwent Llanfair fechan. Boed pob troed
Yn dyner iawn ohonynt, canys mae
Dwy galon fel dwy lili yno'n awr
Yn huno'n dawel fel y nef ei hun.

Nid yw olion hynafiaethol yn dylanwadu yn gymaint ar gorff gwerin gwlad, er fod iddynt eu dylanwad ar ryw ddosbarth o'r rhai mwyaf meddylgar. Fe arferir dweyd weithiau fod hynny yn fwy gwir am Gymry nag am rai cenhedloedd eraill. Pa fodd bynnag am hynny, mae yma ryw gylch, yn cynnwys y Penmaenmawr a Chaerhun a Chonwy, ag y ceir ynddo olion hynafiaethol hynod. A chan mai cylch bychan ydyw, mae'r dylanwad o gymaint a hynny yn debyg o fod yn fwy. Pum milltir sydd o Gaerhun i Gonwy, a phedair a hanner o Benmaenmawr i Gonwy. Mae hynafiaethau Conwy yn fwy yn y golwg, ac yn ddiau yn fwy eu dylanwad ar y meddwl cyffredin; ond mae Conwy a Chaerhun o'r tuallan i gylch yr hanes hwn.

Ar ben y Penmaenmawr y mae Braich y dinas, sef bryncyn ag arno olion caer anarferol gryf, ac wedi ei amgylchu â mur triphlyg, ac o'r tufewn i bob mur seiliau o leiaf gant o dyrau crynion, gogymaint â'i gilydd, a'u trawsfesur ynghylch chwe llath o fewn y muriau, a'r muriau eu hunain yn rhyw ddwylath o dewdra, weithiau'n dair. Gallasai cant o ddynion yma fod wedi gwrthsefyll lleng, ac eto bernir y gallesid fod wedi cynnwys ugain mil o ddynion oddimewn i'r muriau. Fe geir ffynnon o fewn y mur pellaf i mewn na hyspyddir moni yn yr haf sychaf. Yn ol traddodiad, dyma'r amddiffynfa gryfaf o fewn Eryri i gyd. I'r perwyl yma y mae llawysgrif gan Syr John Wynn y Gwydir yn amser Siarl y Cyntaf. (Camden III, t. 188.)

Oddeutu milltir oddiwrth Braich y Dinas y mae'r adail hynotaf yn Eryri, sef y Meini hirion, ar fan gwastad mynydd y Dwygyfylchi [sef plwy ar lun dau hanner-cylch] uwchlaw y Gwddw glas. Gwarchglawdd crwn ydyw â'i drawsfesur yn 80 troedfedd, ac o'r tuallan y mae 10 o feini anghaboledig yn rhyw 5 neu 6 troedfedd o uchter, yn 8 troedfedd a 3 modfedd o fewn i wal gerrig. Y mae maen 11 troedfedd a 2 fodfedd yn gorwedd ar y ddaear. Gerllaw y mae pedwar cylch arall o faintioli llawer llai. Ynghanol un ohonynt mae olion cromlech. Yn ymyl hynny fe geir tri o feini wedi eu cyfleu yn drionglog. O fewn rhyw