Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymdeithas, a chael ewyllys da deiliaid y llywodraeth, y medrem eu cael yn rhad. Wel, gyrr ymlaen at y boneddigion acw.' Methu gennyf gael dim. Gwelais wedi hynny fod y Marcwis yn dod adre, ac aethum i Lundain ato. Mi gwrddais âg o ar yr heol yn gyrru ei gerbyd pedwar ceffyl, ac adnabu fi, a gwaeddodd arnaf,—Dic bach, tyrd i fyny.' Felly fu. Aethum gydag o i ginio, a gofynnodd i mi fy neges. Atebais innau mai'r un neges oedd gennyf ag o'r blaen, ond fy mod yn methu cael cynorthwywyr. Wel, pa beth mae'r esgob acw yn ei ddweyd,' meddai fo. Mae am fy niswyddo i am ddwy flynedd,' ebe fi. 'Wel, cythraul o ddyn ydyw ynte,' ebe fo. 'Na, na,' ebe finnau, 'ni fedraf farnu hynny am dano.' Paham felly, Dic?' 'Wel, barnu mae o y byddai yna fwy o gyfeiliornwyr neu hereticiaid; ac rwyf innau'n barnu y deil Gair Duw i'w chwilio, onide taflwn o ymaith.' 'Rwyt yn dy le, Dic bach,' ebe fo, 'pe buasai wedi bod lle bum i, mi welsai yntau. Paid â phoeni, Dic. Dos adre, a phaid a dweyd wrth na chi na châth. Mi af i yforu at y brenin George [sef y trydydd, mae'n debyg, 1768-1820, er y cyfrifid yn orffwyllog y deng mlynedd olaf o'i oes]. Dos dithau heibio hwn a hwn a hwn a hwn [Yma mae'r clochydd yn cwyno nas gall eu cofio bob yn un ac un], a dywed wrthynt am ddod at y brenin y diwrnod a'r diwrnod, a mi wnaf bopeth yn barod.' Ac felly fu. Cymerodd y brenin hwy yn bur ddieithr; ond fe ddywedodd wrth y boneddigion oedd gydag ef,—Yn wir mi rof fi dipyn iddynt; y maent yn edrych yn bobl pur ddiniwed,' a rhoes £20 iddynt. Y flwyddyn ddilynol yr oedd esgob neu ddau wedi rhoddi ar ol gweled hyn. Yna fe droes y Dr. Gruffydd at William Jones [Abercaseg] a Morus Jones [? yr Hen Broffwyd],—Peidiwch â chymeryd eich denu gan un digalon fel hwn ymwrolwch, frodyr, ac ewch ymlaen.' Er hynny ni wnaethont ddim am ysbaid maith, er cofio'r cyngor. A soniai'r Dr. am godi ysgol ei hun yn yr eglwys er yn waethaf i'r esgob. Canys fe ddywed y Llyfr Gweddi Gyffredin am i'r offeiriad fyned i'r eglwys am awr neu ddwy i addysgu'r plwyfolion, er na ddywed ymha ddull. Dyna'r rheswm pa fodd y sefydlwyd ysgol yr eglwys yma o flaen y lleill. Dyna'r hanes fel y dywedodd Evan Richards ef ddydd fy mhriodas wrth dros ddwsin o ddynion, ac y mae'n cydgordio â thraddodiad henafiaid y plwy.