Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yn yr ysgol Sul fe ofynnid i un o'r hogiau ledio pennill cyn myned i weddi. Gofynnwyd gan William Jones un tro, a lediodd un llanc go fawr y pennill yma:

Pan godech di'r bore meddwl am Dduw,
Cais ddwr ac ymolcha, mi fendi'th dy liw;
A dywed dy weddi cyn profi dim bwyd,
Rhag ofn i'r hen Satan dy ddal yn ei rwyd.

'Yn wir,' ebe William Abercaseg, 'y mae'n bennill da, ond fy meddwl i yw mai cân foesol ydyw. A oes yma neb o'r brodyr a ledia un arall?' Ar hynny dyna f'ewyrth, Owen Jones Coed y parc yn ledio,—Bywyd y meirw.

"Am ddull a buchedd y plwy mae'n debyg ei fod yn waeth na llawer o blwyfydd. Yr oedd yma ddynion cedyrn: gallech weled llu mawr o rai'n pwyso o bymtheg ugain i ddau ugain arbymtheg. A byddai'n orchest gan lawer eu bod wedi ymladd â hwy, er eu gorchfygu. Deuai ymladdwyr yma o Fôn, rai o Lanerch y Medd, ond aent yn ol yn goch eu dillad ac yn weiniaid. Rhoddwyd atalfa arnynt gan Mr. Reynolds [yr offeiriad o erlidiwr y Methodistiaid]. Aeth ef i'r Bwcle Arms a gwnaeth hylltod yn gwnstabliaid. Dyna Robert Jones Glan y môr, ac yntau'n gwnstabl, yn ceisio gan arall fod yn heddychol. Tarawodd hwnnw ef nes ydoedd yn gwaedu. A Robert yn wyllt o dymer tarawodd yn ol, a daliodd ati nes fod y gwrthwynebydd yn y grât a'r tân. Ar hynny, wele Reynolds i mewn â'i gleddyf yn ei law, ac eb efe wrth Robert,— Oni wnes i chwi'n gwnstabl?' 'Yn wir, do,' eb yntau, 'a phan geisiais berswadio hwn i fod yn heddychol, tarawodd fi nes oedd fy ngwaed yn llifo.' 'O,' eb Reynolds, 'curwch dipyn arno eto!' Robert yn curo nes gwaeddi o Reynolds,—Digon bellach. Yna gorchymyn hel y dieithriaid o'r tŷ, ac â dyrnod i hwn a'r llall fyddai'n gildynnus, gyrrwyd yr estroniaid tua therfynau plwy. Yna Reynolds yn gorchymyn peidio, ac am i'r dieithriaid nhwythau beidio â dod i'r plwy ond ar achos cyfreithlon. Fe ymroes Reynolds i'r dull hwn nes darfod i'r plwyfydd eraill beidio â dod yma.

"Bu llawer o ymladd o dro i dro drwy ormod diod wedi hynny, ond ni ddeuai dynion yma ddim rhagor yn unswydd i ymladd fel o'r blaen. A bu yma ddechre pregethu rheolaidd gan y ddau enwad fel ei gilydd. Yr oedd yma dair tafarn.