Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Enw dwy ohonynt oedd Ty'n y groes, ac yr oedd ffidl ym mhob un ohonynt. Y Bwl oedd y llall, a thelyn oedd yn hwnnw.

"Cynhelid Gwylmabsant ar y Calan, sef dydd cario'r maer, canys y mae yma freinlen gan Dywysog Cymru [y lle yn un o drigleoedd tywysogion Gwynedd gynt cydrhwng yr Aberffraw ym Môn a Maes Mynnan yn swydd Fflint, a chario'r maer yma hyd adeg y gwylmabsant yn eilun o'r hen ddefod]. Os digwydd i'r Calan ddod ar y Llun, cedwid yr ŵyl am wythnos. Fe ddeuai pobl yma o Ddinbych a'r Llechwedd isaf [y plwyf yma yn Arllechwedd uchaf, chwe milltir o Fangor, ac i'r gorllewin o Arllechwedd isaf] a Môn; ac felly ni welwn fod yr ŵyl yn fwy poblogaidd na'r ffair bresennol, ac mae hon yn un o'r rhai mwyaf. Fe ddeuai yma un i ymryson canu â'r delyn, ac yr oedd yma rai campus ar hynny. Fe geid coetio ar glwt y Bwl, a pitsio yn agos, a dawnsio lluosog ym mhob un o'r tair tafarn. Ymhlith yr oferwyr e fyddai merched, ieuainc a hên, canys mi a'u gwelais nhwy fy hun. Dyma fyddai ar bob gŵyl, canu ar y delyn a chanu gyda'r tannau, a choetio os yn dywydd braf, ac yfed nes meddwi.

"Yr oedd y Deyrnas [sef enw o amseroedd y tywysogion, mae'n debyg] yn dair rhan, a thŷ [tafarn] ym mhob rhan. Dechreuodd y Wesleyaid a'r Methodistiaid bregethu mewn dwy ran. Gelwid y tŷ o'r tucefn yn Tŷ hwnt i'r Deyrnas [yma yr oedd achos y Methodistiaid. M. T.]. Ar ol dechreu'r ysgolion [? Sul] yn iawn, fe ddechreuodd y ddau enwad bregethu o ddifrif, a llwyddasant yn dda. Nid wyf yn gwybod fawr am ddim neilltuol ynglyn â nhwy, achos i'r Tŷ hwnt i'r Deyrnas y byddwn yn mynd gyda fy nain. [Hen Fethodist aie? ac felly gallesid disgwyl ei fod yn gwybod.] Cof gennyf i Forus Jones gyhuddo'r cythraul o fod yn arch-leidr am fyned â'r offerynau canu o Dŷ'r Arglwydd i'r tafarnau, ac nad oedd ganddo hawl arnynt ond ei fod yn ddigywilydd, y fo a'i ddeiliaid. [Go debyg i'r Hen Broffwyd.] Dywedai John Bryan yn y tŷ arall [y Wesleyaid] fod yr holl wyliau wedi eu sefydlu er gogoniant i Dduw, ac o egwyddor dda ar y cychwyn, ac mai gŵyl mab y sant oedd ystyr yr enw, ond fod dynion diegwyddor wedi ei gwneud yn ŵyl mab y diawl. Darfu i'r ddau enwad cyd-rhyngddynt lwyddo i ddifodi yr ŵyl mabsant, y coetio a'r pitsio, nes dod o'r ardal drwy eu diwydrwydd llawn cystal ag un ardal y gwn i am dani." Hyd yma yr hen glochydd.