Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O Aber! mae d'enw mor swynol i'm henaid;
Dy lethrau dryfrithir â gwaith ein henafiaid,
Gwrthgloddiau a chaerau a chestyll tra chlyd.
Y Llwydmor a'r Bere, mynyddoedd anwylgu,
Sy'n addurn i Aber, i brofi ei bri.
Uwchlaw y rhaeadrau, gwel, dacw y Bera...
Dy raeadr fawreddog, a'th ddyfroedd grisialog,
Yn boddi mae f'enaid ynghanol y côr,
O'r Mŵd a'i choed derw cês gân gan y gwew
A phan fyddaf farw, ô! doder fi i gysgu.
Dan gangau yr ywen, ger beddrod fy mam.
O Aber garth gelyn! meillionnog ei dyffryn,
Hen gartref y delyn a'r awen yn wir;
Pwy faidd fy nirmygu am i mi fawr garu
Y fro cês fy magu a'm noddi rhag nam?
Boed llygaid y Dawdod yn gwylio fy ngwely
Tra fyddwvf yn cysgu ger beddrod fy mam. (Hu Eryri).

Ond llygad y rhyfeddod yw Bangor fawr yng Ngwynedd. Er nad oedd y ddinas gynt nemor fwy na rhyw heol hirgul yn ymlithro yn droellog ar waelod y glyn fel llysŵen mewn glaswellt braidd. Hi ymestynnodd wedi hynny, gan daflu ei gwe dros y Twr Gwyn a'r Garth, a thramwy ryw gymaint yn groes ymgroes mewn mannau. Fe ymegyr yr olygfa oddiar yr uchelfannau yn gylch tra eang, gan gynnwys rhyw ystlys neu'i gilydd ar braidd bob tlysni neu ysgythredd yn yr ardaloedd o amgylch, a chip ar bellafoedd môr a mynydd. Mae teithwyr wedi arfer sylwi mai dyma'r fangre hwylusaf at ei gilydd er trefnu ymweliadau ohoni â cheinion a chyfrinion Arfon a glannau Môn gyferbyn. Fe arferir sylwi, hefyd, yn neilltuol ar brydferthwch yr olygfa oddiyma i gyfeiriad Caernarvon. Nid llyswen mewn glaswellt mo'r ddinas mwyach yn ei hamgylchoedd ac ar ei huchel-fannau, mwy nag yn ei chyfleustra deallol arbennig, ond y sarff frych, dorchog, ar gangen Pren Gwybodaeth, yn britho llygaid Efa, wrth gymell arni "aeron teg y Pren."

Fe sylfaenwyd Bangor, fe ddywedir, gan Deiniol Sant yn y chweched ganrif, sef ydoedd ef wyr y Pabo Post Prydain y mae ei fynwent yn Llanbabo. Mae rhyw le i gredu i'r Rhufeiniaid ymsefydlu yma, ac yn ol hen gronicl John Harding yr oedd yma deml cyn Cristnogaeth. Yn y gwyll ansicr y symud. y cysgodion anelwig hynny. Yr ydoedd y côr o fynachod a