Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y pryd hwnnw nid oedd ond tŷ neu ddau ym Mangor uchaf, dim ond tri thŷ yn y Garth, ac yn un o'r rheiny yr oedd yr hen gymeriad hynod Sian y Garth, a chwareuai'r organ yn yr eglwys. Nid oedd ffordd i'r Garth eto. Llwybr troed yn unig oedd o Danyfynwent yno. Dau dŷ oedd yng ngenau Stryd. y ffynnon, ac wedi hynny camfa a llwybr yn arwain i ffynnon yn y maes rhyngom a'r afon.

Caernarvon gynt ydoedd brenhines y trefi yng Ngwynedd, a hi erys felly o hyd o ran tegwch ei hamgylchedd cystal a thlysineb ei llun, canys dyna ydyw ei genedigaeth-fraint na ddygir oddiarni ar chware bach. Er hynny, y mae Bangor bellach ymhell ar y blaen arni o ran safle gymdeithasol a deallol, cystal ag o ran poblogaeth a masnach. Yn y pethau diweddaf yna tref Wrexham sydd ar y blaen, cystal ag mewn grym. gwleidyddol. Yn nhref y Bala y gwelid gynt ddylanwad urddas deallol, ac yn nhref Machynlleth ddylanwad urddas nodweddiad boneddig, ac yn nhref yr Wyddgrug ddylanwad beirniadaeth gyllellog lem. Ond tra mae'r tair tref ddiweddaf yna yn colli yn arbenigrwydd eu nodweddiad, mae dinas Bangor yn rhoi llam ymlaen ymhob cyfeiriad, ac ar y blaen yn gwbl mewn dysg a deall. Yma yn bennaf yr ymdeimlir âg ystyr yr ymadrodd,— Chwi a fyddwch megis duwiau.

Yr oedd Bangor ar gychwyniad Methodistiaeth yma ymlaen. mewn gwareiddiad ac mewn crefydd, yn ddiau, ar rai o'r plwyfi oddiamgylch; a rhaid priodoli hynny i ddylanwad crefydd eglwysig yn y wedd oedd arni yn y ddinas. Am yr adeg yma fe ddywedir yn y Methodistiaeth y byddai trigolion plwyfi Llanfairfechan, Aber a Llanllechid yn dod at ei gilydd ar brynhawn Sul i ymladd ceiliogod, chwareu'r bêl droed, curo'r bandi ac ymladd, a meddwi a drygau eraill. Chwareuid y bêl ar dalcen yr eglwys a churid y bandi yn y fynwent. Ar ŵylmabsant y Calan fe ddeuai gwŷr Llanfair a'r Aber i ymladd â'i gilydd. Fe welodd gohebydd y Methodistiaeth â'i lygaid ei hun offeiriad ynghanol y miri ar un tro, â chleddyf noeth yn ei law yn gofalu am chware têg i bobl ei blwyf ei hun yn yr ymladdfa, ac yntau ei hunan yn amlwg wedi colli arno'i hun mewn diod. Yn yr Aber, fe ymddengys, y pregethai'r gwr hwnnw, a anfonodd yr hanes ei hun i'r Methodistiaeth, pryd yr oedd amryw wedi dod i'r tŷ a'u cwn gyda hwy, ac y gofynnai un ohonynt i'r pregeth-