Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wr ar ol yr oedfa am sioi o dybaco am gadw'r cwn mewn trefn weddol. Yr oedd hynny oddeutu 1815, ac yr oedd y bregeth honno y gyntaf i'r rhan fwyaf o'r cynhulliad erioed glywed.

Er hynny nid oedd dinas Bangor ei hun chwaith mewn un modd yn lân oddiwrth y drygau hyn. Y traddodiad ydoedd y ffynnai chwareuon yma, hefyd, ar y Suliau, a bod yma anwybodaeth mawr am ystyr crefydd ysbrydol. Ychydig yn nechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg elai i'r gwasanaeth yn yr eglwys, oddieithr ar y gŵyliau arbennig. Ac yr oedd coelgrefydd yn ffynnu hyd yn oed ymhlith y dilynwyr cyson. Fe geid ymdrech deg yn aml i ddilyn buchedd dda heb nemor syniad am wirionedd efengylaidd. Fe ofynnodd Henry Roberts y pregethwr i un o'r cyfryw, er mwyn rhoi prawf arno,—"Hwn a hwn, pa sawl rhan sydd mewn dyn?" Troes y gwr ato, a dywedai,—"Henry Roberts, 'rydach i'n meddwl y mod i'n wirion iawn, yn dydach i: ond pedwar aelod a phen, siwr iawn, sy mewn dyn." Fe ddywed Hugh Roberts yn ei Hanes Methodistiaeth Bangor (t. 9) yr adroddid Breuddwyd Mair gan liaws deirgwaith bob nos cyn cysgu ryw gan mlynedd cyn hynny, sef yn 1882. Yr oedd hynny, hefyd, oddeutu ugain mlynedd cyn sefydlu Methodistiaeth yma. Ond wele Freuddwyd Mair:

Mam wen Fair, wyt ti yn cysgu?
Nac wyf, f'annwyl Fab, 'rwy'n huno a breuddwydio.
Mam wen Fair, ai da yw dy freuddwyd?
Gweled dy ymlid a'th erlid a'th ddal,
A'th roi ar y Groes, lle pur loesol,
A dyn du dall yn dy bigo â'r waewffon,
A'th archoll yn hyll a'th dwyllo.
Mam wen Fair, da yw dy freuddwyd:
Y sawl a'i medro ac a'i dwedo
Deirgwaith bob nos cyn huno,
Breuddwyd drwg ni wna niwed iddo;
A thir uffern byth nis cerddo.
Yn enw Duw, i'm gwely 'raf,
Duw a fo'n feddyg i'r iach ac i'r claf;
Mi orweddaf ar fy hyd;
Duw, derbyn f'enaid pan elwyf o'r byd;
Duw yn y ffenestr, Duw yn y drws,
Duw ym mhob man lle rhoddwyf fy mhwys;
Duw uwchben y tŷ a'r teulu,
Fel y gallwyf yn ddienbyd gysgu.