Fe ddechreuodd ysbigau addysg ymsaethu yn y ddinas ac oddiamgylch ymhell yn ol, a diau eu bod yn rhyw araf deg yn taflu eu dylanwad gwaraidd dros yr ardaloedd. Sonir am Dudur ap Gronwy o'r Penmynydd a Threcastell ym Môn yn sylfaenu yma dy i'r Mynachod Duon ar lan y môr cyn 1276, a chladdwyd ef ei hun yno yn 1311. Ar y sail honno, fel y dengys ei lythur cymun a amserwyd Gorffennaf 8, 1557, y cododd y doethor Sieffre Glynn cyfreithiwr ei ysgol rydd i blant pobl dlodion. Dyma'r ysgol a adwaenid fel y Friar's School. Agorwyd yr ysgol mewn adeilad newydd yn 1789. Dodwyd carreg sylfaen adeilad newydd eto yn 1899. Yn 1719 gadawodd y Deon Jones £100 tuag at ysgol râd i ddeuddeg o blant tlodion. Ar ol i, J. H. Cotton ddod i'r ddinas fel Ficar yn 1810 fe sicrhawyd tŷ i'r amcan o gadw ysgol hyd ddiwedd 1821. Codwyd yma ysgol wladol yn nechre 1822, ac un yn y Faenol yn 1816, a chodwyd yma ysgol i blant bychain yn 1835. A chodwyd ysgol berthynol i'r Annibynwyr, yn 1821 feallai, â gynorthwywyd â gwaddol y Dr. Williams. Tuag 1798 yr oedd Griffith Solomon yn cadw ysgol mewn llofft yn y Faenol. Fe agorwyd ysgol i ferched yn 1808 yn y ddinas gan ferch o'r enw Dunbayand. Gadawodd y Deon Jones yn 1719 £100 ar gyfer addysg deg o blant ym mhlwy Aber mewn darllen Cymraeg. Yr oedd dwy o ysgolion yn Llanfairfechan yn 1842, ac oddeutu 30 o fechgyn yn y naill ohonynt a 35 o enethod yn y llall. Fe agorwyd y Coleg Normalaidd, Awst, 1863, yn cynnwys llety i 41. John Phillips oedd y prifathro; John Price yn is-athro. Yr oedd John Phillips wedi ei benodi yn oruchwyliwr Cymdeithas Ysgolion Brytanaidd a Thramor yn 1843, rhyw bedair blynedd cyn dod ohono i breswylio i Fangor. E fu iddo ran flaenllaw yn sefydliad y coleg. Helaethwyd wedi hynny, fel, erbyn 1912, yr oedd yma lety i 200 o feibion a 80 o ferched. (Cofiant J Phillips, W. J. Owen, 1912.) Agor Coleg y Brifysgol yn 1884. Erbyn 1921 yr oedd yma dros 600 o fyfyrwyr. Fe symudodd y Coleg Eglwysig i ysgolfeistriaid yma o Gaernarvon. Mae colegau yma gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Yr hen Ysgol Rydd i'r bechgyn yw'r ysgol sir bellach, ac mae yma ysgol sir i'r genethod, ac Ysgol Gwenfrewi Santes sy'n ysgol eglwysig i enethod. Yn y modd yma yr ymsaethodd ysbigau addysg yn llwyr iawn i'w nôd, gan risialu yn un dernyn caled, cywrain, o ran trefniadau allanol.