Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ol adroddiad yn y Gwyliedydd am 1825 (t. 286), yr oedd 506 o blant yn ysgolion gwladwriaethol plwy Bangor. Yr oeddis ar Awst 4 ym Mangor yn holi plant ysgolion Beaumaris, Bangor, y Faenol a'r Pentir. Holid ar lafar, debygir, mewn rhifyddiaeth, ar Ioan xi, yng Nghatecism yr Eglwys ac ynghylch Gwasanaeth yr Eglwys.

Fe godir y cyfeiriadau yma at addysg yn y cylch o'r Llyfr Glas a gyhoeddwyd yn 1848: "Ysgol yr Eglwys yn Aber. Mi gefais yr ysgoldy a thŷ'r ysgolfeistr dan unto ac mewn cryn adfeiliad; a golwg y naill a'r llall yn druenus a budr a di- drefn; ffenestri'r ysgoldy wedi eu torri, a thyllau yn y lloriau. wedi eu llanw â chlai. Yr oedd y dodrefn yn ychydig a gwael, a'r llyfrau yn ddrylliedig (t. 431)." "Ysgol y Dr. Williams ym Mangor. Ni chefais ond pump mewn dosbarth lluosog a wybu ddim am yr ysgrythur. . . . Nid oedd y plant hyn yn deall yr iaith Saesneg er ei darllen yn barhaus. . . . oedd 33 wedi bod yn yr ysgol am dros ddwy flynedd, a lliaws ohonynt am dros dair."

Fe sefydlwyd Bwrdd Addysg Esgobaethol Bangor yn 1848 drwy ymdrechion y Deon Cotton ac eraill. Yr oeddis yn cyfrannu rhoddion haelionus i bobl ieuainc yn ymbaratoi at fod yn ysgolfeistriaid mewn ysgolion gwladol; a gwneid rhoddion er cynorthwyo ysgolfeistriaid mewn mannau ag yr oedd eu cynhaliaeth yn ansicr. Diau ddarfod i'r trefniant hwnnw ddenu lliaws i'r eglwys wladol ag yr oedd eu bryd ar fod yn ysgolfeistriaid. Mewn pamphled a gyhoeddwyd gan y Deon Cotton yn ddiweddarach na sefydliad y Bwrdd Addysg, y dyfynnir ohoni yn ei gofiant (t. 113), fe ddywedir mai prif amcan yr ysgolion eglwysig oedd rhoi sail dda i'r plant mewn gwybodaeth ysgrythyrol a'u nawseiddio âg egwyddorion eglwysig. Achwynir am feistradoedd, a geid weithiau, a ganiatae i rai o'u hysgolheigion beidio â dilyn y gwasanaeth eglwysig. A chymhellir ar yr athrawon addysgu'r plant drwy gyfrwng Beiblau a Llyfrau Gweddi Gyffredin dwyieithog, fel moddion cyfaddas i ddeffro eu sylw ac eangu eu dirnadaeth. Fe roir enghreifftiau yn dangos fel y ceir y Gymraeg yn egluro'r ystyr lle nas gallesid disgwyl i'r plant ei ganfod yn y Saesneg. Fe sefydlwyd Stafell y Morwyr yn y ddinas yn 1860. Mewn darlith a draddododd y Deon yn y Stafell, y dyfynnir ohoni yn ei gofiant (t. 131), mae efe yn traethu ar ragoriaeth athrawon