Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hydref 1869 ymlaen. Ac yn achlysurol, mewn amryw gyhoeddiadau eraill neu bapurau newydd.

9. Fe gafwyd cryn lawer o hanes rhai o'r eglwysi hynaf ym Methodistiaeth Cymru, 1851-6. Methodd gan awdwr y llyfr hwnnw gael nemor hanes am rai o'r rhai hynaf i gyd, ac nid oes ganddo ddim ar Betws y coed; ac ni wneir nemor fwy nag enwi y rhan fwyaf o'r eglwysi a oedd wedi tarddu o'r rhai hynaf hynny, heblaw rhoi blwyddyn sefydliad rhai ohonynt. Fe ddiogelodd y Methodistiaeth, er hynny, lawer o'r pethau pwysicaf i'w gwybod, a dengys, hefyd, ddawn nodedig yn yr elfeniad ar ddylanwad y pregethwyr mwyaf neilltuol, ac yn ei adroddiad o hanesion.

10. Bu Cofiant John Jones Talsarn, yn yr hanes am bregethwyr Arfon, a chysylltiad John Jones ei hun âg Arfon mew amrywiol weddau, yn werthfawr.

11. Mi wnaethum gryn ymchwil i'r amrywiol eiriaduron bywgraffyddol a rhyw lyfrau eraill o'r rhywogaeth honno,— Llenyddiaeth fy Ngwlad (T. Morris Jones, 1893) a fu'n wasanaethgar amryw droion.

Dichon fod yn werth rhoi cymaint a hyna o hanes y gorchwyl, gan fod y modd y cafwyd yr hanes ynddo'i hun yn rhan o'r hanes.

Am yr ysgrif a dderbyniwyd o bob eglwys, dichon y dylid sylwi mai am "grynhodeb" o'r hanes yn unig y gofynnwyd gan y Cyfarfod Misol. Rhoddwyd ar ddeall, hefyd, mai am hanes byrr am y rhai pwysicaf yn unig o'r swyddogion, yn flaenoriaid a phregethwyr, y gofynnid. Yr oedd, er hynny, ryw ddegwm o'r ysgrifau yn rhai llafurfawr; a chyhoeddwyd hanes rhyw ddegwm arall o'r eglwysi drwy'r wasg, agos i gyd yn cynnwys hanes go fanwl.

Heblaw y benthycio y cyfeiriwyd ato eisoes, mi fenthyciais oddiar y Parch. D. O'Brien Owen liaws o ddyddiaduron (heb nodiadau) a mwy na dau ddwsin o lyfrau, neu'n hytrach lyfrynau yn bennaf, ac yn fwy anhawdd taro wrthynt na llyfrau mwy eu maint. Mi fenthyciais lyfryn neu ddau oddiar amryw eraill. Yr oedd hynny ar ol gwneuthur pob ymchwil a allaswn,