Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyddid. Fe alwai sylw at y gair yn Esai am y dewiniaid a oedd yn hustyng ac yn sibrwd, mai peep and mutter ydoedd yn y Saesneg, sef ysbio yn y crisial a mwmlian gweddi. Ni fynnai y condemnid yn yr ysgrythur ond y camarfer o'r peth. Fe ddywedai mai wrth gyfarwyddid y crisial y gwybu Samuel y gweledydd am asynod Saul; a mynnai mai dau ddarn crisial, y naill yn grwn a'r llall yn hirgrwn, oedd yr Wrim a'r Thwmim yn y Deml. Dawn natur oedd y ddawn i ganfod yn y crisial, ac ni feddiennid moni gan un o fil, a chollid yr arfer ohoni heb lendid calon. Oherwydd colli'r glendid hwnnw y llygrwyd dewiniaeth, gan yr ae'r dewin a gollodd ei ddawn i arfer dichell er twyllo'r bobl. Fe reolid oriau'r dydd gan y saith angel, Michael a Gabriel a'r lleill, ac i bob un ei awr. Dyna ystyr "dyfod ar awr dda" a bod yr awr arno." Penderfynid yr awr gan leoliad y planedau, ac yn ol hynny y byddai'r argoel yn dda neu ddrwg. Ser-ddewiniaid oedd y doethion o'r Dwy- rain a olrheiniasant fangre genedigaeth yr Iesu wrth y seren. Mi glywais fwy na hyn, ond y mae bellach yn rhy anelwig yn fy meddwl i'w atgynyrchu yma. Math ar grefydd oedd serddewiniaeth gan yr hen ysgolfeistr. Yr oedd pynciau mawr Cristnogaeth yn ganolbwnc iddi, a dygai hithau ei haur a thus a myrr yn offrwm iddi. Ni arddelai efe unrhyw enwad o grefydd yn hollol, er yr ae i'r eglwys ar y Pasg a'r Sulgwyn a'r Nadolig. Fe ymddengys yn sicr ddarfod iddo olrhain lliaws o bethau drwy gyfrwng ei ddewiniaeth. Ni chlywais a arferai efe ei hun y crisial neu'r llyfr consurio. Y rheswm pam y rhoes y dewinio ar neilltu ydoedd y teimlad yn erbyn y peth gan grefyddwyr.

"Fe ddilynnwyd yr athro hwnnw, yn uniongyrchol neu â rhywun cydrhyngddynt, gan athrawes hynod, ac un a feddai ar ryw ddawn nodedig. Fe ddylifai ei hymadroddion yn ddidaw, ac yr oedd y dull o droi'r geiriau yn ddawnus, a'r meddwl yn fyw o arabedd a darfelydd. Hi fedrai roi rhyw dro llednais i'r meddwl ar air llednais neu bwyslais llednais neu edrychiad llednais. Nid ydoedd heb gyffyrddiad achlysurol hyd yn oed o arucheledd, a'r pryd hwnnw fe chwyddai'r llais ychydig, ond yn ddiorchest, dan bwys syniad anarferol. Yr oedd yn rhydd a rhwydd yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac yn y Saesneg yn rhagorol o ran cywirdeb ac arddull. Rhyfedd ei chyfyngu dros ystod oes i ysgolion bychain plant bach!