Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

We'll ask for a Guide, and to Snowdon we'll go,
And look on the Map, which is spread out below;
The birthplace of Edward the Second we'll seek,
We'll see every thing though we tarry a week.
We can't leave Caernarvonshire yet, but we'll wait,
The Quarries to see, ere we pass Menai Strait,
Through the grand Iron Tube to Anglesey Isle..
But as we return, we will surely repair
To that beaut'ous Bridge which hangs in the air;
View the Tubular Bridge, for thus we shall see
They differ in make, but in merit agree. . .

Dyma fel y traetha gwr na fynn i'w enw mo'r ymddangos am athro ac athrawes o'r amser gynt, yr athrawes yn un y bu ef ei hunan dan ei gofal: "Gan y dywedir cymaint o bryd i bryd am aneffeithiolrwydd yr hen athrawon, gellir dywedyd rhywbeth ar yr ochr arall ymherthynas à dau ohonynt a fu mewn ysgol neilltuo!. Darfu i liaws o'r hen athrawon wneuthur gwasanaeth y mae ei ol ar Gymru heddyw, gan flewyna ryw fain fywioliaeth oddiwrth geiniogau'r plant a rhoddion cardod eglwysi neu wyr boneddigion. Un o'r ysgolion lleiaf yn eich cylch chwi [sef yn y gyfrol hon] oedd yr ysgol, ond hi fu yn bostio pethau mawrion yn y ffordd o athrawon. Ymhen rhyw gymaint o flynyddoedd ar ol canol y ganrif o'r blaen y bu farw mewn gwth o oedran y cyntaf o'r ddau; a chlywais gryn lawer yn ei gylch o bryd i bryd, yn enwedig gan ryw ddau neu dri o'i hen ddisgyblion. Bu pobl yn ymgynghori âg ef fel dewin ar un cyfnod, er y darfu hynny yn llwyr ddeg neu ugain mlynedd cyn ei derfyn ef. Fe ddywedai hen ddisgybl iddo a oedd yn 76 oed yn 1922, mai ei hoff bynciau oedd marwolaeth a phynciau cysylltiedig â hynny, a bod ganddo lawer o wybodaeth ar y naill fath a'r llall i'w chyfranu. Ond nid ganddo ef ond gan eraill, lawer blwyddyn yn ol, y clywais i amdano fel dewin. Cof gan un amdano mewn hen gôb lwyd fawr a'i dwy boced Patagonia enfawr, ac fel y gwelodd ef ar un tro yn tynnu allan ohonynt gryn dwysged of lyfrau, nid llai na digon i lanw llond basged ymenyn. Ymhlith y llyfrau yr oedd amryw hen almanaciau y ddeunawfed ganrif d waith Mathew Williams, ynghyd â chyfrol Cornelius Agrippa ar Wagedd y Celfyddydau a'r Gwyddorau. Fe ddywedai'r hen athro mai'r rheswm am yr enw gweledyddion yn yr ysgrythur oedd yr edrychai'r gweledydd i ddau ddarn crisial am gyfar-