Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ail sefydlwyd Cymdeithas y Cymrodorion yn 1820, wedi iddi gyrraedd terfyn ei chyfnod cyntaf yn 1751. Yn nhymor yr ail-sefydlu hwnnw, fel y dengys Teithiau Robyn Ddu (t. 21-38), fe sefydlwyd cryn liaws o gymdeithasau Cymreig yn y wlad, ac ymwelodd ef â'r gymdeithas ym Mangor (t. 38), fel y deallir ei gyfeiriad, cystal a lliaws o fannau eraill yng Ngogledd Cymru.

Yr oedd cyfnod sefydlu'r hen gymdeithasau hynny yn dymor o gynnwrf teimlad gwladgarol brwd yn y wlad. Dyma gerbron mewn llawysgrif rai enghreifftiau barddonol o'r ymfflamychu gwladgarol hwnnw, gwaith beirdd cymharol ieuainc, un a fagwyd ar gwrr cylch yr hanes hwn, a'r lleill wedi preswylio naill ai yn Arfon neu yn ymyl. Fe gyfansoddwyd y darnau hyn yn ystod 1822-3, gan mwyaf ar fyrfyfyr, yn rhyddid chwareus cymdeithas cyfeillion. Fe eglurant deimlad a dawn y cyfnod neilltuol hwnnw; a'r modd y gallai'r teimlad gwladgarol gynghaneddu â'r teimlad crefyddol. Wele enghreifftiau:

Holl ddewrion feibion Gomer,
Cyd gyfodwn oll yn wiwber
I gadw'n hiaith oreuber
Rhag rhuthriadau llu estronol;
O deuwn oll yn ddinacad,
Heb ymdroi, i roi mawrhad;
Pob Cymro cared iaith ei wlad,
A bydded fyw'n dragwyddol.

Tra safo bryniau Cymru oll
Yn gedyrn uwch gwaelodion,
Fe saif Omeriaeth fwyngu
Fel hardd fanon dan ei choron;
A thra fo calon dan fy mron,
A thra chaf serch mi garaf hon,
A thra bo gwir na thir na thonn,
Byw byth fo iaith y Brython.

Holl ieuenctid dewrion Cymru,
Dowch ymlaen fel gwych wrolion
I gadw a choleddu'n hiaith a'n gwych arferion.
Mae beirddion Cymru yn amlhau,
A phlaid ein hiaith sydd yn cryfhau;
Am hyn ymlaen awn heb lwfrhau,
Cawn gario'r dydd yn eon.