Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Na rown led cŵys o'n daear
Byth yn sathrfa gwŷr estronol,
Na gair o'n hiaith ddigymar
I golli yn dragwyddol.
Pob Cymro coded ar ei draed
Ymlaen gan lwyddo'n brysur aed,
Na chilied fyth hyd golli gwaed
Yn cadw ei iaith orchestol.

Tra bo anadl yn ein ffroenau
Cofiwn gadw iaith ein mamau,
Heb ei llygru ar ein tafodau,
Tra gwaed yn gwead trwy'n gwythienau
Tan ddwylaw gwelwon angeu.
Er inni gael ein hymlid.
I gilfachau y mynyddoedd,
A cholli'n tir a'n rhyddid
Yn awr ers hir flynyddoedd,
Mae ein hiaith hyd heddyw'n fyw
Er lid gelynion o bob rhyw,
A byw a fydd tra fynno Duw
Yn lân trwy bob terfysgoedd.

Tyr'd i'r B—— hawddgar Gymro,
Ti gei fara a chaws a chroeso;
Cainc ar delyn i'th ddifyrru,
Boddi'r gofal am yforu. G.

Telyn yw addurn teulu [P]—a choron,
I'w chware yn fwyngu;
Brwd addien i brydyddu
Blodau eirian y gân gu. G

Cu yw adlais ac odlau [G]—iaith enwog
A thyner blethiadau C
Y delyn, gwell no diliau G
Ym min hwyr i'm llwyr wellhau. C

Gwellhau y clwyfau clafaidd—a maeddu
Y meddwl sy'n bruddaidd,
A dwyn gwres o dan y gwraidd
Yn hynod i'r fron henaidd. C

Gwylied oll o un galon—a ddylem,
I ddal ein hiaith union;
Cadwer, amddiffyner hon
'N oes oesoedd rhag y Saeson. G