hynny'n fisol; a phan symudwyd i Ffestiniog ymhen rhyw ddengmis peidiodd â'i athronyddu. Daeth Cronicl S.R. a sefydlwyd yn 1843 hyd yma yn 1890. Cychwynnodd y Beirniad chwarterol, Mawrth, 1911, dan olygiaeth yr Athro J. Morris Jones, a pharhaodd hyd Chwefror, 1920. Yn Nerpwl, yn swyddfa'r Brython, yr argreffid ef. Yr oedd hwn yn un o'r pethau pwysicaf a welodd yr iaith ym myd y cylchgronau, ac yr oedd llewyrch "ysgol Bangor" yn danbaid arno. (Llenyddiaeth fy Ngwlad, T. M. Jones, 1893. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, C. Ashton, t. 736-44. Cymru, 1915, Ionawr, t. 45, sef ysgrif ar Newyddiaduron a Chylchgronau Bangor gan Asaph.)
Mae orgraff "ysgol Fangor" wedi dod yn air teuluaidd agos drwy'r wlad bellach. Ni bu cymaint son am orgraff, debygir, o fewn yr un terfynau o ran poblogaeth, mewn un wlad dan haul erioed ag yng Nghymru'r dyddiau hyn. Mae pwnc yr orgraff wedi bod o bryd i bryd o'r blaen yn cyffroi llên Cymru amryw weithiau. Darfu i wr y bu ei drigias ym Mangor am ysbaid, sef Gweirydd ap Rhys, ymyryd â'r orgraff. Yn eisteddfod Llangollen yn 1858 fe'i penodwyd ef a Thomas Stephens i drefnu'r orgraff, ac yn 1859 y cyhoeddwyd ffrwyth eu hymchwil mewn llyfryn dan y teitl, Orgraph yr Iaith Gymraeg. Ni phrofodd mo'r trefnu hwnnw yn un terfynol, ac ni chyfrifir mo deitl y llyfryn, hyd yn oed, yn ddianaf bellach. Myned yn ol at yr hen orgraff, o ran ei phrif linellau, y mae'r ysgol newydd yn broffesu ei wneuthur; a'r Dr. Pughe, y cyhoeddwyd ei Eiriadur mawr am y tro cyntaf yn 1803, a gyfrifir fel y gwr a wenwynodd y ffynhonau.
Dyma ddarn o sgrifen gwr sy'n sefyll megis ar neilltu i'r ysgol yma, gan wylio ei gweithrediadau â dyddordeb, neu ddiddordeb yn hytrach, ond heb o'i ran ei hun na chymeradwyo nac anghymeradwyo ddim rhagor na'r amcan ei hun. Ni chyfrif mono'i hun yn llenor cyhoedd ac ni fynn mo arddel ei waith yma; ac ni chyhoeddir yma namyn cyfran o'r hyn a sgrifennwyd ganddo, gan y gwisgai wedd yn hytrach yn ddieithr i ddarllenwyr. Yr un gwr ydyw, gellir sylwi, ag a sgrifennodd y dernyn ar yr athraw a'r athrawes hynny. Eb efe: "E fernir yn briodol bellach ddanfon yr ysgolor ieuanc