Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y Gymraeg i orffen ei yrfa addysgol ym mhrifysgol Rhyd y croesau, y tarddodd "ysgol Bangor" ohoni yn y dyddiau y meddiennid y gadair Geltig gan Ioan Rhæsws. Fe ferchyg yr ysgolor tuag yno ar hen gaseg Peredur, ac wrth chwipio. â'i chynffon bryfed llwydion yr orgraff a'i blina o'r tucefn fel y teithia hi drwy goedwig y cynseiliau, hi fed i lawr y deri a'r cedrwydd yr ymlochesa'r gwybed hynny yn eu dail a'u boncyffion, nes yw hi yn gadael llwybr llydan tramgwyddus o'i hol, lle gorwedd dan gywilydd y sawl a ddelid gennym gynt yn y fath barchedigaeth. Pa beth yw na deri na chedrwydd yngolwg yr hen gaseg, a hithau ei hun ar y fath faintioli anferth, sef fel chwech o eliffantod? Eithr yr hyn sydd i'm difyrru yn aruthr yw canfod Ieuan Fynach, prif addysgydd y bechgynnos hyn o hil Peredur, yn ei waith yn ymosod ar drigolion glannau'r Lafan pan ddeuant hwy i fyny yn erbyn bugeiliaid yr ysgol, gan ddifrodi'r gwinllanoedd llên, a bygwth peri i'r gwin newydd beidio am dymhorau. Difyr odiaeth, meddaf, yw canfod Ieuan Fynach yn gwneuthur iddo'i hun waewffon o ruddin yr afallen sur, gan daro difrodwyr y gwinllanoedd ar draws ac ar hyd, a hynny uwchben eu gwaith yn canu cân y cynhaeaf gwin. O fel y chwildroa'r waewffon o amgylch ei ben, ac y gyrr hi â grym yn erbyn bola'r swyddog Dyddordeb nes rhoddi ohono ef wich, ac yn erbyn corn gwddf y rhingyll Awdwr nes rhoddi ohono yntau wawch! Fel y nâd y naill ei i-i-i a'r llall ei u-u-u! Ac ô, fel yr ä'r hen gewri ymaith ar ffo gan grochlefain, sef yr hen Buw Faldorddus a'r hen Wallter Rodresus! A phan geisiai neb un ohonynt ymguddio yn nyrysni'r gwinllanoedd, fel y tery yntau hwnnw nes gorwedd ohono dap ar ei ben ôl, gan ei anafu yn ei feingefn, a gwneuthur iddo ruo fel tarw mewn magl. Fel yr ymlid efe ar hyd Ffordd Deiniol ac y chwilia gelloedd Ysgol y Cynghor. Gwae, gwae, gan fel y curr ac y craf ac y dulia ac y dyrnodia ac y pwnia ac y procia ac y myntumia ac y protestia, nes bod esgyrn yn clecian ac esgyll yn clatsian a lleisiau yn gwichian ac yn gwawchian! Gwedi gwneuthur cyfrif o'r celaneddau a orweddai ar Orgraff-faes y Lafan fe'i cafwyd yn dair mil ar ddeg chwe chant a dau arhugain, heblaw gwragedd a phlant, y sydd bob amser yn ddealledig. Ond nid llai difyr weithrediadau Gilfaethwy ab Don y llenlleidr penffordd, a ddwg yntau berthynas â'r ysgol, er i'w breswyl fod mewn