traddodiadau pentrefol, ac y gwasgar eu canghennau gwastad eu cysgodion dros hanner can' troedfedd o ddaear."
Gair byrr o Bradley eto, a ysgrifennai yn ymyl terfyn y ganrif o'r blaen: "Ni thebygir i neb lithro heibio chwarelau'r Penrhyn nad hyfforddient iddo brawf digonnol o'u bod hwy yno. Fe edrych fel petae hanner mynydd wedi ei dafellu i ffwrdd, a'r gweddill a adawyd yn gyfresi o ffyrdd anferth y gwelir dynion a thryciau yn ymlusgo hyd-ddynt fel llu o forgrug prysur; a chlywir rhu swrth ar ysbeidiau yn gonofio i lawr y nant, ac yn ymdreiglo ar i fyny drwy hafnau'r mynyddoedd, gan ymgolli ar gopäon yr ucheldiroedd. Darfu i streic '96 a '97 beri i'r byd wybod am faint y gweithrediadau. Da gwybod mai gwr cynnil yw'r chwarelwr Cymreig, a bod ganddo ddau bwnc o ddyddordeb, megis ag y mae efe gan amlaf yn ddwy ieithog, ac nad ydyw ei hoffter etifeddol o'r tir wedi ei golli yn hafnau di-haul Eryri. Ymddengys bwthyn a chlwt o dir yn angenrhaid ei ddedwyddwch a'i uchelgais, ac i'r clwt tir fe ymry yn ei oriau hamddenol â dyfalwch canmoladwy. Ni glywn ar bob pryd am ragoriaeth Sais y Gogledd-dir. Nis gwn a fydd neb yn utganu yn utgorn y Cymro, a diau fod westrels yng Nghymru megis ag y mae gwŷr darbodus yng Ngogledd-dir Lloegr. Yn y cysylltiad hwn, nid heb arwyddocâd ydyw'r bwthynnod gwynion ynghanol eu rhwydwaith gloddiau a daenwyd mor helaeth ar y bryniau gleision o'r tu allan i ardaloedd y chwarelau; ac os yw Bethesda yn meddwl mwy o symudiadau y distadlaf o'i phregethwyr nag o un o weinidogion y Cyfrin-gyngor, gallwn feallai ystyried y cyfrif wedi mwy na'i fantoli. [Sef a feddylir wrth yr ymresymiad go dywyll yma, debygir, os yw pobl Lloegr yn dyrchafu gormod ar lafurwr Gogledd Lloegr mewn cymhariaeth â'r chwarelwr, mae'r chwarelwyr nhwythau, yn eu tro, yn fwy na hynny yn dyrchafu'r pregethwr distadl, wrth feddwl mwy ynghylch ei symudiadau nag ynghylch gweinidog o'r Cyfrin-gyngor. Dim niwed i Bradley ymsynio mai fel hynny y meddwl Bethesda am ei phregethwr distadlaf!]
"Mi fuaswn ar unrhyw bryd yn hebgor ychydig funudau i hen eglwys Betws y Coed petae ond yn unig am gerflun gogwyddedig mewn llawn arfau a orwedd uwch beddrod gwr a'n cymer yn ol ar un naid heibio i'r ceir post a'r berwig i oes Cymru arwrol. Nid yw hwn amgen gwr na Gruffydd ap