Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cododd yr haul âg ysblander Mehefin ar bentref Betws y Coed, gan wasgar tês ysgafn a grogai uwchben y planigfeydd hynny o larswydd brigog a wahaniaethai'r lle oddiwrth bobman. arall a welais yn y Dywysogaeth. Y coed harddwych hyn, sy'n nhymor cynnar y flwyddyn agos y cyntaf i groesawu pelydr yr huan yn eu gwanwyn-wisg o wyrdd ysgafnbryd, a welir yma ar hyd y nant yn rhesi cyson o wyrddlesni cyfoethog ac yn pluo ystlysau'r mynydd i'w fan uchelaf. Y llydanlafn o oleuni a ddylifai yn y bore cynnar fel diluw ysgafn dros waun o'r coed hyn, â'u brigau cyllellog yn llednais ymgyffwrdd âg ef, a dorrwyd yn fyrdd o fân-ddernynnau goleuni drwy'r cyffyrdd- iad, gan gylchdroi oddeutu eu canghennau crogedig a datguddio'r briger tryloewon a lliwiau llednais eu dail taselog.

'Dyma hi'n hwyrddydd ym mhentref hyfrydlon Betws y Coed. Suddai'r haul yn araf islaw gwregys lydan Moel Siabod, tra'r ymgodai'r tarthoedd teneuwe, a sugnwyd o'r ddaear gan wres haul, fel llen nos dros y gweunydd gwlybyrog, gan beri i'r llarswydd a'r pinwydd troellog ymwisgo yn eu rhith-fantelli.

"Mae eglwys Betws y Coed yn ddiareb o fechan, ond syml fel ag ydyw, a chyfyngedig ei mesurau, hi wasanaetha i'r ddau amcan o ysgol ddyddiol a thy gweddi. Hen wr deallus yw'r ysgolfeistr, a hen smociwr gwydn, fel y dyfalwn wrth y cetyn du cwta a ddarganfum wedi ei ddodi o'r neilltu yn y bedyddfaen, ynghanol swrn o ddalennau budron yn moeli eu clustiau, perthynol i lyfrau sillebu a chatecismau. Yr oedd cerflun arfog y milwr pybyr, Gruffydd ap Dafydd Goch, o âch frenhinol Cymru, wedi ei wthio'n ddiseremoni dan sedd ag wrthi'r rhybudd hwn mewn ysgrifen arw ar y mur,- Perthyn y gofadail hon a'r sedd i'r Parch. D. Price, A.M.' [Dyma mewn llai na hanner canrif o amser ffawd y Gruffydd ap Dafydd Goch hwnnw yr arosodd Bingley druan ym Metws y Coed am ennyd yn unig er mwyn ei weled ef, heb falio dim am Betws y Coed ei hun, a oedd yn y cyfamser wedi ymflaguro mewn bydenwogrwydd, a hynny ar gorn yr arddunedd hwnnw yr honnai Bingley ei hun y rhoddai efe'r fath werth arno.] Mae'r fynwent o fewn hyd cae i'r Gonwy, ag mae murmur ei melodi ynghlyw y crwydryn myfyriol fel yr ystyr efe'r hen goed yw gwychion, a dreuliwyd gan amser ac a falwyd gan dymhestloedd, ac yr ymestyn eu coffadwriaethau ymhell tuhwnt i bob