Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'u tafod â chanu. Yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i'r rhai hyn. Yr oedd y mynyddoedd a'r bryniau yn bloeddio canu o'u blaen, a holl goed y maes yn curo dwylaw. Pan mae Duw yn achub pechadur fe wna hynny dan ganu. Mae efe'n gorfoleddu drosto dan ganu. Ac mae llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao. Ac mae'r pechadur ei hun yn canu i Dduw. Ac os yw Duw yn canu wrth achub, a'r angylion wrth weld achub, a phechadur wedi ei achub, pam na chawn innau ganu pan mae meddwon yn cael i hachub oddiwrth feddwdod?" Yr oedd bloeddiadau'r dorf fel atalnodau i'r araeth, a phob ategiad yn peri i'r ymadrodd ddylifo â rhuthr mwy. "Mae rhai'n gweld y canu a'r siarad yma'n foddion gwael at sobri'r byd: ond os meddyliodd Duw iddo ateb y diben fe wna. 'Doedd Cyrus brenin Persia, nemor beth yn erbyn caerau Babilon. 'Deryn y gelwid o yn y broffwydoliaeth a aeth o'r blaen am dano:— Yn galw aderyn o'r dwyrain, a gwr a wna fy nghyngor o wlad bell. Ond 'deryn Duw er hynny. Fe safai Babilon, medda nhw, ar bum milltir a deugain o dir, a phob stryd yn bymtheng milltir o hyd, a hanner cant o honyn nhw, a'r afon fawr Euphrates yn rhedeg drwy ganol y ddinas. Yr oedd y muriau yn amgylchynedig â ffos llawn dwr, ac ochrau'r ffos o briddfeini. Yr oedd tewder muriau'r ddinas yn drigain troedfedd, a thri chant o dyrau fel Twr yr Eryr yma, yn codi oddiarnyn nhw. Yr oedd y muriau mor llydan fel y gallai tair coach an' four fynd ar garlam yn gyfochrog â'i gilydd ar hyd-ddyn nhw. [Syndod ceg-agored wrth y disgrifiad yma a garlamai fel hyn ymlaen fel y coach an' four, yn enwedig wrth glywed y fath ryfeddod o wybodaeth o enau'r Hen Broffwyd.] Ond dyna big y 'deryn yn agor gwely newydd i'r afon fawr [A dyna fraich yr Hen Broffwyd, ar ol bod yn ddyrchafedig ennyd, yn dod ymlaen â hwrdd mor nerthol ag y tybiasid weled y ddaear yn ymrwygo o'i blaen], ac, yn y man eto, dyna big y 'deryn yn agor dan seiliau'r ddinas, nes bod y muriau a'r tyrau yn dymchwel ac yn chwalu." Wrth weled pig y 'deryn yn rhwygo'r ddaear fe neidiodd ugeiniau o bobl ar yr esgynlawr ar traed yn ddiarwybod iddynt, fel na bu ond y dyd rhwng y Parch. Ddafydd Jones a chwympo dros yr ymyl. "Felly," ebe'r Hen Broffwyd, "y dymchwelir ac y chwelir caerau'r fasnach feddwol o flaen moddion ordeiniedig Duw, er gwaeled