Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

caseg yn llywydd y gymdeithas am lawer blwyddyn. Sylw o eiddo Christmas Evans ar gychwyniad y mudiad ydoedd ddarfod iddo dybied wrth ymrwymo'n ddirwestwr ei fod yn aberthu ých, ond erbyn gweled nid ydoedd namyn llygoden Ffreinig. Fe gafodd achos dirwest ym mhlwyfi Llanllechid a Llandegai amryw ddadleuwyr doniol, megis Morris Jones yr Hen Broffwyd a'i frawd Thomas Jones, William Williams y Talgae a John Griffith y Gors, Griffith Roberts y Carneddi a Griffith Jones Tregarth.

Mi gafodd Morris Jones dro nodedig mewn araeth yng nghastell Caernarvon yn 1851. Yr oedd yno amryw gorau yn datgan amrywiol ddarnau, ac un pwynt i'w araeth, os nad y pwynt i gyd, ydoedd amddiffyn y canu fel rhan gyfreithlon. ac effeithiol o'r ymgyrch. Mae hanes y tro hwn yn gyfryw ag i ddangos y gorweddai ynddo adnoddau fel llefarwr na ddeuent i'r golwg yn aml. Fe'i corddwyd y tro yma i'r gwaelod, a bu siarad mawr am yr araeth, a mynych gyfeiriad ati ymhen blynyddoedd. Yr oedd rhywrai wedi gwrthwynebu ei alw ar amgylchiad mor bwysig, gan olygu yn ddiau ei fod yn ddiffygiol mewn coethter erbyn y fath gynhulliad; ond trowyd y byrddau yn deg arnynt. Yr oedd ganddo lais ardderchog, er mai anfynych y teimlid ei rym na'i felodedd llawn. Y tro hwn yr oedd y llais yn atsain y dref. "Mae llawer yn ein beio ni,' ebe fe, "am ganu cymaint. Nid wn i ddim pam. Mi gewch fod canu ynglyn â phopeth pwysig iawn er dechreu'r byd. Pan grëodd Duw y byd yma fe gydganodd ser y bore, a gorfoleddodd holl feibion Duw. Y peth oedd naturiol iddyn nhw wrth weld y fath ymdoriad o ryfeddodau oedd canu; ac nid oedd neb angel yno heb ymuno yn y gân. Y peth cyntaf i gyd wnaeth Israel wedi dod allan o'r Mór Coch oedd canu, a Miriam chwaer Moses yn cadw'r amser." Yr oedd awel ysgafn gyda'r araeth, a dawn y llefarwr yn dylifo, ac wrth iddo yn ddawnus actio Miriam yn ledio'r gân, aeth yn floeddio byddarol drwy'r lle. Olrheiniai yntau ei ddameg: "Pan gawson nhw'i gwaredu o Babilon, y peth cynta wnaethon nhw oedd canu, ac ni wydden nhw ddim p'run ai gwaredigaeth wirioneddol oedd hi ynte breuddwydio 'roeddan nhw. A pha ryfedd: nid y nhw'i hunain oedd yn canu, ond y greadigaeth efo nhw. Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion yr oeddan nhw fel rhai yn breuddwydio. Yna y llanwyd i genau nhw â chwerthin