Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dan ofal yr eglwys Annibynol yno, yn 1874. O hynny ymlaen mae ysgol y Carneddi dan nawydd eglwysi Jerusalem, Brynteg, Gerlan a Charneddi. (Llanllechid, R.O., t. 89.) Fe deimlodd Robert Jones Rhoslan awydd am addysg i'w genedl. Teithiodd ddwywaith i Lacharn, swydd Gaerfyrddin, at yr Arlwyddes Bevan er eiriol am gymorth at addysgu ieu- enctid yng Ngwynedd. Llwyddodd yr ail dro ar yr amod yr ymgymerai ef ei hun â chadw'r ysgol, â'r hyn y cydsyniodd yntau. Dechreuodd ar y gwaith yn y Capel Curig. Yma y rhoes efe ei bregeth gyntaf, yn absen gwr dieithr a ddisgwylid yn 1765, pan yn ugain oed. Tebyg mai tua'r adeg yma y dechreuodd gadw'r ysgol, ac aeth oddiyma i'r Rhuddlan ar yr un gorchwyl.

Fe dybir gan rai i'r Dr. Arthur Jones fod yn cadw ysgol. ym Metws y Coed yn ddyn ieuanc, ac yn Fethodist y pryd. hwnnw. Bu David Roberts Bangor yn cadw un o ysgolion Charles o'r Bala yno. Agorwyd ysgol elusenol yn 1821. Yn 1867 y cychwynnwyd ysgol y Rhiwddolion, dan ofal priod gyntaf y Parch. H. Rawson Williams, ac wedi hynny yn 1869 dan ofal Gutyn Arfon. Hon oedd hyd at ymyl diwedd y ganrif o'r blaen, o leiaf, yr unig ysgol anenwadol yn y rhan yma o'r sir.

Mae'r dylanwad ysbrydol yn amlygu ei hun ar lwybr moes, megis y gwelir, er enghraifft, ym mudiad dirwest. Dichon mai i Bethesda y perthyn yr anrhydedd o ffurfio cymdeithas ddirwest gyntaf sir Gaernarvon (Diwygiad Dirwestol, t. 63). Evan Edwards oedd y prif offeryn yn ei sefydlu. Rhoes ef yr ardystiad i Richard Jones Abercaseg, Mai 18, 1836. Dyma'r ddau enw cyntaf. Yr un mis ffurfiwyd y gymdeithas yma. Erbyn Medi yr oedd 50 o feddwon, heb sôn am eraill, wedi ymuno. Erbyn Rhagfyr 15 yr oedd 2,276 wedi arwyddo'r ardystiad yn y gymdogaeth. Yma y cynhaliwyd yr ŵyl ddirwest gyntaf a lluosocaf. Drannoeth i'r Nadolig y cynhaliwyd hi; wedi hynny ar y Calan. Yr oedd gwyl 1850 yn un nodedig, pryd yr anerchwyd y cyfarfod gan E. Price Birmingham a'r Dr. Arthur Jones. Sefydlwyd y Clwb Du ar annogaeth y Dr. Daeth côr Braich melyn, dan arweiniad William Morris Braich melyn, a Richard Roberts Tyddyn Elen yn enwog ynglyn âg ef. (Diwygiad Dirwestol, t. 219.) Bu Richard Jones Aber-