Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adeiladu ysgol Frytanaidd, ynghyda'r swm o £144. Cedwid ysgol yn yr eglwys oddeutu 1802 gan wr y rhoid yr enw "Mr. Morris Yr oedd Thomas Jones Bethesda yn bregethwr ymhlith yr Annibynwyr, a chedwid ysgol ganddo oddeutu 1825. Symudodd i Benmynydd, Môn. Ystyrrid Huw Llwyd y Carneddi yn ysgolhaig campus, a chedwid ysgol ganddo oddeutu 1831. Cedwid ysgol yn Ty'n tŵr gan Thomas Williams oddeutu 1832. Bu Evan Richards yng nghapel y Carneddi o 1817 ymlaen, ac ym Mhen y groes o 1842 ymlaen. Yr oedd ef yn wr o fwy dylanwad na chyffredin, a chofid am dano â theimlad o rwymedigaeth.

Codwyd ysgol Wladwriaethol y Rachub yn 1828; ysgol Frytanaidd y Rachub yn 1853; ysgol Frytanaidd y Carneddi yn 1851; ysgol Glan Ogwen yn 1851; ysgol Tŷ'n tŵr yn 1830; ysgol Llandegai yn 1844; ysgol Bodfeurig yn 1854. (H. Derfel Hughes, t. 109.) Yr oedd y ddwy ysgol ym mhlwyf Llandegai yma eisoes yn 1842. Yr oedd ysgol blwyf yn Llanllechid yn 1719, er cyfrannu addysg i ddeuddeg o blant. tlodion mewn darllen Cymraeg. (Topographical Dictionary.)

Ymhlith cofnodion y Cyfarfod Misol am Chwefror 7, 1852, fe geir un yn galw sylw at rodd Owen Jones yn ei lythur cymun. Nodir iddo roddi £130 19s. 4c. ynghyda'u llog at gynnal ysgol ddyddiol yng nghymdogaeth Carneddi. Barnwyd, gan nad oedd ond un ysgol ar hynny o bryd yn y gymdogaeth, sef yr un a gynhelid yn yr ysgoldy ynglyn â chapel Carneddi, bod honno'n deilwng o lôg yr arian ar hynny o bryd. Barnwyd fod rhyw gyfran yn digwydd i William Jones Brynllys pan gadwai efe ysgol yn y lle. Nid yw'r penderfyniad yn cau allan ysgolion eraill o'r gymdogaeth hon rhag ymofyn cynorthwy, pe codid y cyfryw yn y dyfodol. Mynegir y rhoddwyd yr arian dan ofal a llywodraeth y Cyfarfod Misol.

Gan y Methodistiaid y cychwynnwyd ac y cynhaliwyd ysgol. Frytanaidd y Rachub. Adeiladwyd yno ysgoldy a thŷ ar draul o £370. Cyfrannwyd £30 y flwyddyn am ysbaid at gynnal yr ysgol. Rhoes gweddw Owen Jones y tir at godi ysgol y Rachub. Rhannwyd arian Owen Jones yn y man rhwng ysgolion y Carneddi a'r Rachub. Yr oedd eglwysi Bethesda (Annibynwyr) a Jerusalem yn gyfrannog yng nghynhaliad ysgol y Carneddi. Chwefror 9, 1854, cyflwynwyd yr ysgol dan nawdd y Llywodraeth. Agorwyd ysgol dan gapel Bethesda,