Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd, a gadwai ysgol yn yr un lle oddeutu 1791. Danfonodd y Dr. George Lewis ysgolfeistr yma o'r enw William Williams, er na arosodd nemor. Yr oedd hynny cyn ymadawiad George Lewis o Gaernarvon yn 1794. Oddeutu 1799 bu clochydd arall, sef Richard Williams, yn cadw ysgol am beth amser yn eglwys Llandegai eto, ac hefyd yn y Tŷ gwyn. Bu Elin Mathew y Pendinas yn cadw ysgol yn ei thŷ ei hun o tua 1792 hyd 1825. I'r Annibynwyr y perthynai hi, ac yr ydoedd o fewn ei chylch yn Gristiana arall, gan addysgu plant eraill megis yr addysgai Cristiana ei phlant ei hun, er na wyddis a oedd gan Elin Mathew blant o'i heiddo'i hun. Bu Edward Williams yn cadw ysgol ym Mraich talog tua 1795, a dywedir ei fod yn ysgolhaig medrus, yn athro da ac yn bregethwr doniol. A pha enwad? Perthyn i'r Annibynwyr yr oedd Elin Thomas Coed y parc, a chadwai ysgol mewn tŷ. Yr oedd Elis Gruffydd Williams Braich talog yn fab i Gutyn Peris, ac yn bregethwr yng nghyfundeb y Wesleyaid. Graddiwyd ef yn ysgolfeistr yn Glasgow, a bu'n cadw ysgol yn Siloh, capel y Wesleyaid yn Nhregarth, oddeutu 1844, ac yn symudodd i Aberystwyth. Bu John Williams Tŷ'n y clawdd yn cadw ysgol yn hen gapel y Wesleyaid oddeutu 1825, ac fe'i hystyrrid yn ysgolhaig da. Tebyg ei fod ef yma o flaen Robin Ddu, canys fe ddywed ef (Teithiau a Barddoniaeth, t. 39) mai yn lled fuan wedi dychwelyd i Gaernarvon o Eisteddfod Rhuthyn, a gynhaliwyd Mawrth 1, 1825, y sefydlodd efe ysgol yn Nhŷ'n y clawdd, sef addoldy'r Wesleyaid ger Tregarth. Bu yma drachefn yn 1836-7 (t. 53-4). Bu Arfonwyson yn cadw ysgol yn Nhregarth oddeutu 1823-6. Yn Llandegai yr oedd y rhai a enwyd.

Ysgolfeistriaid cynnar Llanllechid eto. Fe gedwid ysgol yn yr eglwys gan Risiart Gruffydd oddeutu 1789. Cyflenwid ei enillion â'r gwaith o dorri llythrennau ar gerrig beddau. Cedwid ysgol gan Dafydd Wilson oddeutu 1794. Fe'i hystyr- rid ef yn fardd da cystal ag yn ysgolfeistr da. Gosododd ddeial ym mynwent Llanllechid ac yn y Penrhyn. Barnai Gutyn Peris ei farwnad i Charles o'r Bala yn rhagori ar yr un o'r rhai a gyhoeddwyd yn y Cofiant. Symudodd i Langollen fel cyllidydd. Bu Owen Jones yn cadw ysgol yn yr eglwys am tua 3 blynedd yn niwedd y ganrif. Yn 1800 ymgymerodd â gofal peiriant ar y ffordd haearn yng Nghloddfa'r Cae, sef y gyntaf ar y fath honno. Gadawodd yn ei lythur cymun dir at