Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hughes (t. 25), ar dro nodedig, yn ystlys Cwm Marddwr, ar Gylch Cyfrin Dail y Bysedd Cochion, ac ynghanol y Cylch Cyfrin, un unig ddalen y Bysedd Gwynion fel brenhines mewn mawrhydi, a nhwythau'r Bysedd Cochion yn ymgrymu yn ei gwydd, ac fel yn gweini arni megis cynifer Life Guards, ebe'r gweledydd ei hun. A gofynna efe,-"Pa sut y bu hyn?" Onid rhyw angel oedd yno allan o'r gwawl â'i fysedd meinwych yn trefnu llun o harddwch ger gŵydd y Cyfamod Disigl? Ambell un yn unig y sydd y taenwyd Cylch y Cyfamod o'i ddeutu; ond mae'r rhelyw yn araf araf deithio tuag yno, er i lawer eto fod dan ewinedd y cythraul.

Rhyw "Mr. Griffith o'r Garn yn swydd Ddinbych" yn 1808, yn gyntaf i gyd yn Ynys Brydain, a ddarganfu frwynddail y mynydd yn yr Ysgolion Duon, ac ni wyddid o'r blaen ei weled yn nes yma na'r Alpau, er ddarfod dod o hyd iddo wedi hynny yn 1820 ar Grib y Ddesgl yn yr Wyddfa, ac yn Nghegin y Cythraul hefyd, pryd y disgynnwyd i lawr wrth raffau i'w gyrchu. Awdurdod Hugh Derfel Hughes dros hynny ydyw sgrifennydd yn yr Herald Cymraeg am Awst 2, 1862. A dyma deneuwe'r gwawl yn estynedig o'r Alpau uchel ar awel ysgafn ysgafn, neu fwynaf anadl angel, ac wedi cydio ar sgafell Cegin y Cythraul a thrachefn ar Grib y Ddesgl ar yr Wyddfa, yn egluro inni'r modd, mewn arwyddlun, y taenir rhwydwaith dylanwad ysbrydol o'r uchelion, gan amgau am uchel ac isel; ac er mai bir aros am i'r rhwydwaith o ras amgau'r byd, neu'r ardal lle preswyliwn hyd yn oed, eto mae anfeidrol amynedd o'r tucefn heb ball yn gweithio wrth gymhelliad cariad cymesur âg ef ei hun.

Un cyfeiriad i'r dylanwad ydyw ar lwybr y deall, fel y gwelir ei weithrediadau yn yr ysgolion dyddiol. Fe gedwid yr ysgolion hynny ar y cyntaf yn y llanau plwyfol, neu mewn ysguboriau neu'r cyffelyb, neu mewn capeli. Yr ysgolfeistriaid yn yr hen amser, fel rheol, oedd oraclau dysg yr ardaloedd yn nesaf at y personiaid; a'r clochydd yn fynych, fel y gwelir yn llythyrau Goronwy Owen, a wasanaethai swydd yr ysgolfeistr, ynghydag ymweliad mwy neu lai mynych oddiwrth y person. Yr oedd Thomas Jones y clochydd yn cadw ysgol yn eglwys Llandegai oddeutu 1765. Mae cryn ysbonc oddiwrtho ef at Thomas Jones arall, sef mab Nant Gwreidiog, clochydd yntau