Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y cyflogau yn isel, ac anhawdd ryfeddol oedd gael gwaith o gwbl. Fe gynnygid tir ar brydles o 30 mlynedd i adeiladu tai. Y cymhelliad cryfaf i'r nifer luosocaf o'r gweithwyr i adeiladu eu bwthynnod ac i arloesi'r tir ar y telerau hynny oedd er mwyn sicrhau gwaith yn y chwarel. Hanes y bobl hyn am y cyfnod o 1843 hyd 1872, sef adeg ymsefydlu y Parch. John Williams yma, oedd un frwydr ddiorffwys am angenrheidiau bywyd. Nid oedd blinder y nos mwy na blinder y dydd i'w ystyried ganddynt: un cwestiwn a'u hwynebai,—Pa fodd i ddiwallu angenrheidiau tymorol y teulu? Yr oedd diwylliant meddyliol a deallol, er nad o'r tuallan i ddymuniadau rhai ohonynt, yn gwbl o'r tuallan i gyrhaeddiad y lliaws mawr. Fe agorwyd ysgol ddyddiol yn yr ardal gan yr Arlwydd Penrhyn yn 1852, a gwnaeth lawer o ddaioni. Ond nid oedd amgylch— iadau'r rhieni yn caniatau iddynt fanteisio'n llawn yn rhan eu plant ar yr ysgol. Gorfu i'r plant a fagwyd yn y cyfnod hwnnw ennill eu bara pan rhwng naw a deuddeg oed. Cynulleidfa yn yr amgylchiadau yma yr ymgymerodd John Williams yn 1872 â gofalu drosti. Pobl oeddynt yn llafurio'n galed nos a dydd, ac er hynny'n dlodion o ran pethau'r byd hwn. Wedi profi dirfawr gamwri o ran diwylliant meddyliol, yr oeddynt drwy'r cwbl, neu 'r oedd llawer ohonynt, o dueddiadau crefyddol, ac yn fynych yn dra selog ynglyn â'r cwbl o'r cyfarfodydd yn y capel."

Fe atynnid llysieuwyr, hyd yn oed yn amser Pennant, at y llysiau a dyf ar 'sgafellau Cegin y Cythraul, ac oddeutu ei hanferth enau agored. Fe dŷf yn yr amgylchoedd hynny,— frwynddail y mynydd a suran gron y waun a'r bêrwydd a chwys yr haul a'r gronell a mantell Fair fynyddig. Er i'r cythraul garu llechu yn ei gegin, fe ymwthia dail a blodau, arwydd— luniau meddyliau tragwyddoldeb, i'w gymdogaeth agos ac i lawr llethrau'r afagddu lle'r ymgudd efe. Onid yw'r nef fel hynny ar ganol gwthio demoniaid y pwll o'u mangre? Yn araf y taena'r blodau oror sancteiddrwydd ar draws y gwyllnos a'r dychryn. Eithr fe welir hynny o fuddugoliaeth yn y cymdogaethau yma. Ond er mai yn araf araf y gwelir buddugoliaeth y blodau ac estyniad eu hymerodraeth, eto fe welir y fuddugoliaeth lawn ar dro mewn mangre unig yn ernes y fuddugoliaeth lwyr, gyffredinol, megis pan ganfu Hugh Derfel