Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

euon hyn, a chwedi dechre â chanu a dawnsio byddid yn diweddu mewn meddwi ac ymladd. "Gwilihoban" oedd yr enw a roid ar y gwyliau hyn, ac arferid gynt son am fachgen neu eneth penrydd wedi mynd i wilihoban. Methodd gan William Jones Abercaseg, er maint ei orchestion, roi atalfa ar y gwyliau hynny. Prynodd unwaith delyn a chwareuid ar y pryd, ac a'i llosgodd yngwydd y chwareuwyr, heb i hynny dycio dim. Tebyg ddarfod i William Jones ddysgu gwers yn yr amgylchiad hwnnw, megis y gwnaeth Paul yn ei ymdrech aflwyddiannus yntau yn Areopagus. Pa ddelw bynnag, yr hyn y methodd. gan William Jones Abercaseg yn deg a'i gyflawni a gyflawnwyd yn llwyr effeithiol gan Rowland Williams, person Llandegai, a hynny, ebe Hugh Derfel Hughes, "drwy eu bygwth yn hyllig â chyfraith." Ofni'n fwy yr oeddis lew y gyfraith na thân y delyn.

Sonir am Gampau'r Cerrig Llwydion a gynhelid ar ddydd gŵyl, sef diwrnod talu'r ardreth i liaws o'r trigolion. Yr oedd yr ŵyl hon, meddir, yn meddu ar ryw elfen o gysegredig- rwydd. Byddai dynion mewn oed yn ymryson rhedeg am bellen o dybaco, a chyrhaeddai'r yrfa o Lidiart Cerrig llwydion drwy hafn i Lidiart Lleiniau'r Talgae ac yn ol. Dywedir yn y Methodistiaeth (II. t. 252) yr arferai trigolion o dri phlwyf, sef Llanfair, Aber a Llanllechid, ymgasglu at ei gilydd ar y Dalar hir ar brynhawniau'r Suliau i ymladd ceiliogod a throedio'r bêl, curo'r bandi, ymladd a meddwi. Sonia Derfel Hughes am Dŷ'n y Clwt, Pen yr Ala yn Nhregarth, a Phenardd Gron fell mannau cyfarfod ar y Suliau ar y cyfryw negeseuau, a chwan- egir dyrnu'r iar at y gorchest-gampau a enwir gan y Methodistiaeth.

Nid oedd nemor lewyrch yn y cyfnod hwn, fel y cafwyd awgrym esioes, ar fywoliaeth y bobl. Mae William H. Williams, yn ei nodiad ar gysylltiad y Parch. John Williams âg eglwys Hermon, yn gwneud y sylw yma ar amgylchiadau allanol y gymdogaeth: "Yn 1843-5 y dechreuwyd gwneud y ffyrdd ac adeiladu'r tai. Cyn hynny nid oedd yma ond mynydd-dir mawnog, lle cawsai trigolion rhan isaf y plwyf danwydd a lle cedwid defaid ganddynt. Yr oedd cyflwr y gweithwyr yn y cymdogaethau hyn y pryd hwnnw yn wirioneddol druenus.