'itha am fynd yn i herbyn nhw. Ac os ydych am lynu wrth ddirwest rhaid i chwi fod yn wrol. Mi wnewch y tro'n weddol heb wroldeb ond i chwi fod yr un fath a'r bobol y byddwchi efo nhw: 'dydi'o ddim yn gofyn dim ymdrech yn y byd i chwi wneud 'run fath a'r cwmni. Pysgodyn marw, mi aiff i lawr gyda'r lli yn ddidrafferth iawn. Mae'n gofyn pysgodyn byw i fynd yn erbyn y lli. Mi gewch ambell un yn selog iawn efo dirwest am ryw dymor byrr. Mi gewch weld rhai'n llawn o sêl am fis, yna'n oeri. Pobol selog am fis! Pobol heb ddim. pwys ynddyn nhw ydi rheiny: pobol ysgafn fel shafins. Peidiwch â bod yn rhyw shafins efo dirwest. Petha ysgafn iawn. ydi shafins!—petha gwaelion iawn ydi shafins! 'Dydyn nhw'n da i ddim ond i gynneu tân. Mae pobol felly efo dirwest: pobol wamal, pobol o gymeriad ysgafn:—shafins! Ac mae lle i bryderu am danyn nhw, mae i'r tân y teflir nhw yn y diwedd. Daliwch ati hi, ynte, gyda'r gwaith. Peidiwch â bod fel y rheiny, yn selog am ychydig ac yna'n llaesu dwylo, weithia'n frwd weithia'n oer. Peidiwch â bod yn ffitiog fel yna. Mae'na lawer o bobol ffitiog efo phob gwaith da; ond petha perygl iawn ydi ffitia. Mae pobol yn marw mewn ffitia!"
Eithr o gyfeiriad yr ysbryd yr amlygir y nerthoedd mawrion, pa mor araf bynnag y gallai y gweithrediad ohonynt ymddangos. Weithiau fe eglurir y teimlad crefyddol yn rhyw gyffyrddiad arbennig ac anarferol o eiddo'r Ysbryd. Un peth o'r natur hwnnw y cafwyd rhyw amlygiadau anarferol ohono yn yr ardaloedd hyn ydoedd y canu yn yr awyr. Y rhai a'i clybu gyntaf oedd John Pierce a'i wraig, o'r Tyddyn-isaf ar ol hynny. Yr oedd John Pierce wedi codi yn foreuach nag arfer ar un diwrnod, ac aeth allan ar ryw neges, pryd y clywai ganu yn rhywle uwch ei ben gan wahanol leisiau. Wrth ddychwelyd yn ol i'r tŷ, fe welai ei wraig yn agwedd un yn gwrando ar rywbeth a glywai tuag i fyny, a phan welodd hi ei gwr torrodd allan, "O, John Pierce, a glywchi'r canu braf yna? Yr wyfi yma yn gwrando arno ymron er pan yr aethoch allan." Y mae'r gwr a ddanfonodd yr hanes i Fethodistiaeth Cymru am y canu awyrol hwn yn yr ardal neilltuol yma yn sôn am y tro cyntaf y clywyd ef ganddo ef ei hun. Yr oedd hynny yn y flwyddyn 1818. Ar y cyntaf fe'i clywai fel yn ysgogi gyda'r