Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

igol yma a genedigol yn rhywle arall, gan amcanu at fyrder, yn enwedig ymherthynas â'r sawl yn y naill rywogaeth a'r llall na buont yma nemor o hyd hyd y gwyddis.

Ymhlith y rhai a anwyd yma y mae Siams o'r Nant (1757- 1855), a anwyd yn Nhanymarian. Bu fyw gan mlynedd onid dwy. Tebyg fod ei enw wedi ei awgrymu iddo gan enw Twm o'r Nant, yn gymaint a'i fod yn gyfaill i'r gwr hwnnw. E fu'n un o gwmni Twm o'r Nant pan chwareuid ei anterliwtiau. Cyfansoddodd gryn dwysged o ddarnau barddonol.

Gwr o'r Rachub oedd Huw Glochydd (1770-1850). Bu'n glochydd yn eglwys Ann Santes am 29 mlynedd. Fe'i cyfrifid yn ei ddydd yn yr ardaloedd yn brydydd manyl-graff, a chyfansoddodd yntau, hefyd, gryn dwysged o garolau, englynion a cherddi.

Yr oedd John Thomas (Ogwen) yn fab Penisa'rnant, Llanllechid, a ganwyd yn 1811. Fe'i hystyrrid yn meddu ar awen glos. Cyfansoddodd W. R. Williams (g. 1815) gryn swrn of ddarnau barddonol, ac yr oedd wedi ei fantoli'n dda â gwybodaeth a barn. Yr oedd Gwilym Llechid (g. 1803 yn y Carneddi) yn frawd i'r pregethwr, John Williams Coetmor. Cyfrifid gan Llechidon na fagwyd Cymreigydd gwell os cystal yn Llanllechid. Cyfansoddodd weithiau gramadegol ac aralleiriaeth o ddarnau o'r ysgrythur. Meddai ar ddawn gywrain mewn naddu coed â'i gyllell. Fe gyfrifid Robert Llystyn Jones (g. 1830 yng Nghae maes collen, Llandegai) yn meddu ar ddawn wreiddiol mewn prydyddu, a bu son am rai darnau o'i eiddo.

Ganwyd John Parry (1808-38) yn y Carneddi. Efe yw awdwr y dôn Datguddiad yn llyfr John Ambrose Lloyd. Cyfansoddodd Gorfoniawg o Arfon (g. 1814 ym mhentref Talybont) yr erthygl ar Gerddoriaeth i'r Gwyddoniadur a phethau eraill, ac ail drefnodd Ramadeg Mills. Cyfansoddodd Alawydd (g. 1820) Ramadeg Cerddoriaeth yn 1848, a'r ail argraffiad yn 1862, ac yr oedd ganddo Lyfr Tonau Cynulleidfaol yn y wasg pan ddaeth nodiad Llechidon arno allan o'r wasg yn 1868. Ganwyd Eos Llechid yn 1828. Ni chafodd ddiwrnod o ysgol na hyfforddiant cerddorol. Cyfansoddodd ddernynnau clysion. mewn cerddoriaeth cyn bod yn 18 oed. Cyfansoddodd gantawd Gwarchaead Harlech. Yr ydoedd wedi bod yn arweinydd cor eglwys Llanllechid ers dros 20 mlynedd pan ddaeth llyfr Llechidon allan. Ni chafodd Gwilym Caledffrwd nemor fanteision.