Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pwnc. Pregethu yn nerthol y pnawn yn y Carneddi ar bwnc y bore. Pregethu yn Jerusalem am 5 ar y gloch. Ugeiniau yn methu ymwthio i'r capel. Teimlad dwys cyffredinol wrth wrando ar Gwnewch eich goreu ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd. Pregethu ar y maes y Sul fore a phrynhawn yn ymyl y Carneddi i dorf fawr heb ddylanwad neilltuol; yr hwyr ar faes yn y Gerlan i ddwy neu dair mil o bobl ar,—Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef. Teimlad cryf a swn gorfoledd. Yn Llanllechid am 2 ddydd Llun ar Felly y carodd Duw, à nerth; y nos yn yr un lle methu gan ugeiniau fyned i mewn. Y pwnc, —Yr Arglwydd yw fy mugail. Ocheneidio, wylo, rhai'n gorfoleddu. Ni welwyd mo'r cyffelyb ers 24 blynedd. Dydd Mawrth am 10 yn y Gerlan ar Felly y carodd Duw. Llond capel o bobl; am 2 ar yr un pwnc ym Mrynteg; am 7 yn ymyl Jerusalem i dorf anferth yn yr awyr agored. Dameg y winllan oedd y pwnc. Yr oedd chwarelwyr Llanberis lawer ohonynt yn brysio dros y mynydd yn eu dillad gwaith i'w glywed, ac yn llanw'r awyr â swn cân a moliant. Yr oedd nifer o wŷr ieuainc o Lanberis yn ceisio'i gyhoeddiad yno drachefn, ac wedi ei gael yn llawen eu calonnau. (Cofiant, t. 207). Nid oedd yma, hyd y gwelir, mo'r nerthoedd dieithr ac ofnadwy a deimlid nid yn anfynych yng ngweinidogaeth y gwr hwn; ond yr oedd yma rai gweithiau y dirwasgiad hwnnw nad all neb mo'i roi ond Ysbryd y gras. A'r peth y ceisir ei ddangos ydyw bod y dylanwadau uchaf i gyd y gall ysbryd dyn fod yn agored iddynt yn daenedig. fel rhwydwaith dros yr ardaloedd hyn. Er hynny, nid gwiw gwadu'r Ysgolion Duon a'r Twll Du a Chegin y Cythraul!

Mae'r amrywiol ddylanwadau, deallol a moesol ac ysbrydol, i'w canfod yn ymagor, weithiau ryw un ohonynt yn arbennig, weithiau eraill y cwbl ohonynt mewn cynghanedd yng nghymeriadau dynion; a'r cwbl ynghyd yn fwy neu lai amlwg yn hanes yr enwadau crefyddol.

Fe nodir yma enghreifftiau o gymeriadau'r ardaloedd, dros ben yr hyn a roir yn hanes yr eglwysi neu yn y crybwylliadau am y gwahanol enwadau crefyddol, pa un bynnag a fo'r cymeriadau hynny yn egluro'r gwahanol ddylanwadau y soniwyd am danynt yn y cynghanedd ohonynt ai peidio. A gallai fod yn fanteisiol i ddilyn dosbarthiad Llechidon, sef enwogion gened-