Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

man, pa ddelw bynnag, fe wybu mai'r awel oedd yno dan bis- tyllodd Rhaiadr y Benglog, ac mai atsain y meini a glywai. Fe fynegodd ei ddarganfyddiad i eraill, a rhoes hynny daw, ebe'r gohebydd, ar y son am y canu yn yr awyr. Nid mor syml a hynny ychwaith, fel y dengys yr adroddiadau a roddwyd eisoes ac a ddanfonwyd ymhen blynyddoedd lawer i Fethodistiaeth Cymru. Nid yng Nghymru a gwlad Canaan yn unig y clybuwyd y canu angylaidd. Ystyrier yr hyn a ddywedir am yr Esgob Swedberg o esgobaeth Skara yn Sweden, sef tad Swedenborg ydoedd ef: "Edrydd pa wedd yn 1673 [yn 20 oed], ar y diwrnod y pregethodd yn eglwys Hoby yn agos i Lund, y trydydd Sul ar ol y Drindod, y clybuwyd tua'r godechwydd yn yr eglwys, er nad oedd ynddi unrhyw organ, leisiau uchel yn canu emynau. Clybuwyd hwy gan bawb o bobl y pentref. O'r amser hwnnw, fe ddywed Swedberg y teimlai at wasanaeth y cysegr y barchedigaeth ddofn honno nas gadawodd mono mwyach, yn gymaint a'i sicrhau fod angylion Duw mewn modd arbennig yn bresen yn y gwasanaeth cysegredig. Ymhob blwyddyn wedi ei ordeinio fe gynhaliai y Sul hwnnw yn jiwbili, gan ei alw yn ŵyl fawr y pechaduriaid mawr." (Swedenborg, Tafel, i. 145.).

Yr oedd gweinidogaeth Richard Owen yn ei flynyddoedd olaf yn gyfryw ag i atynu pobl o wahanol gynulleidfaoedd a chynulleidfaoedd gwahanol enwadau. Fe deimlir yr un grym ar adeg diwygiad, ond y pryd hwnnw yn aml fe gynhelir cyfar- fodydd ym mhob cynulleidfa ar ei phen ei hun. Heblaw hynny, mae'n ddiau fod yng ngweinidogaeth y gwr hwnnw ar bryd- iau rywbeth cwbl arbennig o ran helaethrwydd yr amlygiadau. Yr oedd teimlo'r cyfryw ynglyn âg ef ynddo'i hun yn wysti buddugoliaeth gwirionedd ysbrydol yn y pen draw. Fe roir y cyfeiriad ato yma am fod hanes ei bregethu yn help i ddangos graddau'r teimlad crefyddol mewn ardal yn gyffredinol. Nid yw'r hanes ynglyn â Bethesda yn un mor arbennig, ond fe wasanaetha i'r amcan y soniwyd.

Ar ddydd Sadwrn, Awst 9, 1884, y daeth Richard Owen i Bethesda. Yr oedd y bore hwnnw yn Sadwrn tâl; er hynny yr oedd Brynteg y bore yn llawn o wrandawyr astud. Gŵyr gwrandawyr Richard Owen beth a feddylir wrth ddweyd y gwrandawai'r bobl yn astud. Af a dychwelaf i'm lle oedd y