Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adrodd am effaith y canu arno'i hunan, sef mai prin y medrai gerdded yn ei flaen ar ol ei glywed. Edrydd Richard Jones Abercaseg am Richard Thomas, Ty Gwyrdd y pryd hwnnw, yn codi o'i wely i glywed y canu, ac yn ei syfrdandod dan ei ddylanwad, yn myned heb ystyried bellter mawr o ffordd tua'r chwarel yn ei grys nos. Fe ddichon, ac mae'r hanes yn gwneud yn debygol, na ddigwyddodd yr enghreifftiau hyn i gyd o flaen y diwygiad, er mai fel rhagflaenydd y diwygiad y cyfeirir at y peth.

Nid oes dim yn anhygoel yn y cyfryw enghreifftiau oddi- gerth i ambell i Thomas, ar fath y cydymaith hwnnw i E. Rich- ards, nad yw synwyrau eu dyn oddimewn wedi cwbl ymagor. Un gwr ysmala ddigon, a gwawdiwr mawr ar y canu awyrol y sonid am dano ynglyn â diwygiad '59, sef ewythr i Hugh Hughes, Penrhewl, Tregeiriog, wedi clywed ohono y canu hwn ei hunan mewn man unig ar ben y Berwyn, yn ystod y dydd goleu, a or-ddifrifolwyd ganddo am weddill oes, nes llwyr golli yr elfen ddireidus a oedd mor hynod ynddo o'r blaen. Fe gafwyd hyn o enau Hugh Hughes ei hunan; ac yr ydoedd y peth ar un adeg yn eithaf hysbys i'r holl ardal. A gallesid lluosogi'r cyfryw enghreifftiau. Ar adeg nodedig fe ym- ddanghosodd angel i wyr mynyddig, nes bod rhyw lewyrch tan- baid o'u hamgylch, ac yn y man nhwy glywent foliannu,- Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da.

Diau ddarfod i bobl nid yn anfynych gamgymeryd rhywbeth arall yn amseroedd y diwygiadau am y canu hwn. Mae ysgrif- ennydd yn y Gwyliedydd (1827, t. 51) yn rhoi enghraifft o hynny, cystal a'i fod yn adrodd pethau o ddyddordeb am y syniadau a ffynnai yn ei gylch. Fe ddywed yr aeth y son am y canu rai blynyddoedd cyn hynny fel ar gyrn a phibau, a bod llawer o ddyfalu yn ei gylch yng nghwmwd Arllechwedd. Fe ddywed na chlywid geiriau ond pereiddsain isel, ac y clywid gan rail ac nid eraill mewn cwmni o bump neu chwech. Bernid ef yn arwydd o lwyddiant tymhorol gan rai a llwyddiant ar yr Efengyl gan eraill. Annedwydd gan y sawl a'i clywodd y cyfrifid y rhai na chlywsant mono. Ond ynghanol y berw yn ei gylch, wele wr o Fangor ar ymweliad â chyfaill yn Nant. y ffrancon, ac wedi nosi arno a phan oddeutu rhyw chwarter milltir i'r tŷ fe dybiai glywed ohono'r canu yn yr awyr. Yn y