Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun fagu amryw ysgolheigion lled dda yn Nhy'n y clawdd (t. 39-40).

Ni chuddiaist, nych yw addef,
O'th fewn chwaith ei fwynach ef.
Ef, o'i weithred, fu fy Athro,
Ag hael lewyrch, i'm goleuo;
Llên, addien nodded,
Dysgais, cofiais gêd,
Y Dwned o'i dano.
A thyner fwynder, o'i fodd
Ei ddisgybl a addysgodd. (Robyn Ddu.)

Daeth Hugh Derfel Hughes yma yn 1846. Bu farw yn 1890. Casglodd ynghyd cryn swrn o bethau ar wahanol fath i'w lyfr ar Llanllechid a Llandegai. Cyhoeddodd Blodau'r Gân a'r Gweithiwr Caniadgar. Eithr y Cyfamod Disigl ydyw Hugh Derfel Hughes. Erys hwn ar ol i lawer o bethau falurio. Y Bys Gwyn ydoedd hwn ynghanol cylch y Bysedd Cochion: y Crist Gwyn yn ei Aberth yn ganolbwnc Cylch bywyd rhuddgoch y greadigaeth. Dyrchafwyd Hugh Derfel Hughes mewn munud o ras uwchlaw ei gynefin lwybr.

Daeth Gaerwenydd Prichard yma yn ddyn go ieuanc. Gwelir rhyw enghreifftiau ohono fel prydydd yn yr hanes hwn. Dengys deimlad tlws at y neb y bu efe dan ei addysg. Tuag 1821 y daeth John Davies i Flaen y nant. Tuag 1830 y daeth i Benybenglog. Bu farw yn 1866. Cyhoeddodd Daith o Bethesda i Gapel Curig, yn egluro daeareg a llysieuaeth ei lwybr. Daeth Asaph i Bethesda yn 15 oed. Cyfansoddodd anthemau a phethau eraill. Bu Gwallter Bach farw yn 1846 yn 27 oed, wedi cyfansoddi emynau a phethau eraill. Daeth yma yn ieuanc, ond bu am ysbaid ym Manceinion, a bu'n ddarlithydd i'r Cymru dros yr Anti-Corn-Law-League. Ganwyd Arfonwyson, er nad o fewn terfynau'r ddau blwyf y soniwyd yn arbennig am danynt, eto o fewn terfynau'r Dosbarth o eglwysi sy'n bwnc yr hanes ar hyn o bryd, sef wrth odreu Moel y ci, ger y Pentir, a hynny yn 1805. Bu farw Mawrth 12, 1840. Nid oes neb o frodorion y darn yma o wlad a adawodd y fath argraff o alluoedd anarferol. Un peth a rydd gyfrif am hynny ydyw fod ei alluoedd wedi ymagor mewn cyfeiriad allan o'r llwybr cyffredin, yn enwedig yn ei gyfnod ef. Gallesid meddwl mai fel mesuronydd yr oedd ei ragoriaeth arbennig. Rhyw sylwadau a wnaeth ar y gomed y gwnaeth Halley ymchwiliad iddi ar ei hymddangosiad yn 1680, a phan