Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydoedd eto heb ymddangos yn ei amser ef, a arweiniodd i Arfonwyson gael swydd yn yr Arsyllfa Freiniol. Fe ddywedir ei fod yn prysur ymddyrchafu yn yr Arsyllfa. Nid oes ball ar edmygedd Huw Tegai ohono (dyfynedig gan Llechidon o Seren Gomer, 1849) oddieithr mewn un cyfeiriad; ni fynn y deallodd. erioed beth oedd enaid barddoniaeth, er deall y rheolau yn fanwl. Cenmyl ei hunan-hyder gan fynegi na chredai ddarfod geni dyn i'r byd yn rhagori arno ef ei hun. Wrth son am symledd iaith yr hen bregethwyr fel elfen yn eu dylanwad, e fyddai'r Dr. Owen Thomas yn tynnu llyfryn allan o logell ei wasgod, gwaith cyfaill iddo ef, fel y dywedai heb nodi'r awdwr, a darllenai ychydig ohono fel enghraifft o iaith yn ehedeg uwchlaw amgyffred pobl gyffredin. Ar ol darllen, fe godai'r darlithydd ei ên, a chan estyn y geiriau allan a'u codi'n uwch. uwch fe ofynnai,-"A ydachi-yn i ddeall-o?" Yr oedd Cynfaen dan y pulpud ym Moriah yn codi ei ên yntau hefyd, ac yn edrych fel pe tae ef yn ei ddeall yn eithaf gweddol, pa beth bynnag am eraill. Dyma'r dernyn a ddarllennwyd yn digwydd bod wrth law. Y paragraff cyntaf ydyw yn rhagfynegiad " Arfonwyson i'w "Eiriadur Cymreig a Seisonig, a chydymaith i'r ysgol Sabbathol," llyfr fe welir wedi ei fwriadu ar gyfer amgyffred y lliaws. Dyma'r paragraff: "Y Geiriaduryn â gynnygir idd eich sylw á achlysurid gan gwynion trymfrydig a di- wydfryd angenawg yn rheidiau teleidion a chywreinbleth iaith ystwyth-gamp barabldrefn a boddgar gymhenddull ei hamrywiogsain drwy awyr Gwalia." Yr oedd gan Arfonwyson gynneddf eang: gallasai fod wedi gwneud seryddwr mesuronol pwysig yn ei ddydd, debygid; a gallasai fod wedi gwneud geiriadurwr o rywogaeth y Dr. Pughe. Dau allu cyferbyniol i'w gilydd yw'r rhain. Mae ei derfynau wedi eu nodi allan gan. Tegai mewn rhan, sef hunan-hyder eithafol, er mai fel nodwedd i'w hefelychu y sonir am dani ganddo ef; a diffyg llwyr o'r nwyd. farddonol. Gellir chwanegu, debygir, ddiffyg llwyr o humour, fel y daw i'r golwg yn y dernyn crybwylledig, yn enwedig wrth ei gymeryd fel peth wedi ei baratoi yn "gydymaith i'r ysgol Sabbathol." Dangosodd Arfonwyson awydd llesoli Cymry ei genhedlaeth drwy amryw ymdrechion o'r eiddo; a bu ei esiampl yn symbylydd i liaws o bryd i bryd. Gellir barnu ei fod, hefyd, o ysbryd cyfeillgar a charedig.