Williams am oedfa Dafydd Morgan nad oedd dim gorfoledd neilltuol ynddi, ond teimlad dwys a chyffredinol. Bu cyfarfod gweddi ganol dydd ffair ym Moriah yr adeg honno a'r capel yn llawn. Yr oedd y Parch. Edward Owen Gilfachgoch, Morgannwg, yn aelod yma y pryd hwnnw. Fe ddywed y gwelodd. y capel yn anioddefol lawn ar nosweithiau'r wythnos, a rhai o'r cymeriadau gwaethaf yn y dref yn bresennol. Cafodd Thomas Hughes Machynlleth oedfa hynod yma un Sul. "Pa beth yr aethoch allan i'w weled?" Baich y bregeth: mor ychydig, wedi'r cwbl, oedd llawer yn weled. Arhosodd 17 ar ol, ac yn eu plith Richard Evans a fu'n flaenor wedi hynny yng Nghaeathro. Glynodd dychweledigion y bregeth hon yn o led lwyr. Rhif yr aelodau yn 1858, 554; yn 1860, 736; yn 1862, 691; yn 1866, 705.
Yn 1860 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Evan Richardson Owen, Lewis Lewis, Robert Griffith, Richard Griffith, John Owen Ty coch. Ni fynnai y diweddaf weithredu, er y cyfrifid ef yn rhyw ddull megys un o'r swyddogion, ac nad oedd yntau, debygir, yn anfoddlon i hynny.
Yn 1862 fe ymadawodd (y Dr.) Griffith Parry i Lanrwst fel gweinidog, ac yntau y pryd hwnnw yn 35 oed, ac wedi bod. mewn masnach fel llyfrwerthydd yn y dref. Aeth i'r Bala yn 1847, ac yno y dechreuodd bregethu y flwyddyn ddilynol. Yr oedd ef yn ddyn o feddwl galluog a choeth, ac o wybodaeth eang. Yr oedd ei wasanaeth yn y seiat yn un gwerthfawr iawn, gan y traddodai yno yn fynych anerchiadau lled feithion, wedi eu meddwl yn drwyadl, ac yn llawn goleu ar bynciau mawrion yr athrawiaeth. Nid oedd hynny wrth chwaeth pawb, ond i rai yr ydoedd yn amheuthyn, ac yn foddion diwylliant ysbrydol. Cof gan Mr. John Jones Llanfaglan am dano, oddeutu'r adeg y dechreuodd bregethu, yn dod i Glynnog am y tro cyntaf yng nghwmni ei dad, Edmund Parry. Disgrifir y tad gan Mr. Jones fel gwr tal, o ymddanghosiad craff, o wisgiad da, ac mewn. clos pen glin, gyda botymau melynion, a'r olwg arno rywbeth yn foneddig.
Yn Hydref, 1865, y dechreuodd John Williams (Caergybi) bregethu.
Yn 1867 fe atgyweiriwyd y capel ar draul o tua £2,500, y ddyled flaenorol yn £600. Cadwyd y muriau a'r to. Rhowd