Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffenestri newydd a chryfhawyd y pen mewn amryw fannau. Yn lle bod yr oriel o amgylch fel o'r blaen, dodwyd hi oddeutu tair ochr, ac yn hanner crwn gyferbyn a'r pulpud. Dechreuwyd atgyweirio yn Ionawr. Cynhelid y gwasanaeth yn y cyfamser yn yr ysgol Frytanaidd hyd Hydref 6. Agorwyd drwy gyfarfod gweddi nos Sadwrn, Hydref 12, gan bedwar hen frawd penwyn, aelodau o'r hen gapel yr aethpwyd ohono yn 1826, sef William Swaine, John Wynne, Richard Prichard, Ellis Griffith. Gwasanaethwyd y Sul gan Joseph Thomas, ar nos Lun a dydd Mawrth gan Henry Rees, Owen Thomas, Dafydd Jones, Joseph. Thomas. Dywed Owen Thomas fod pregeth Henry Rees fore Mawrth yn un o'r rhai mwyaf dedwydd a glywodd efe ganddo erioed. "Yr oedd rhyw eneiniad nefol a bendigaid ar ei ysbryd ef ei hunan, ac ar deimladau yr holl gynulleidfa y bore hwnnw." (Cofiant H. Rees, t. 849.) Cafwyd addewidion am £1,415 15s. ar yr agoriad, yn amrywio o hanner coron i £140. Rhowd ar ddeall na chyffrowyd nemor ar y cythraul gosod seti ynglyn â'r agoriad hwn.

Chwefror 22, 1868, yn 76 oed, y bu farw Dafydd Rowland, yn flaenor yma ers 40 mlynedd, a chyn hynny yn y Waenfawr ers tuag 8 mlynedd. Yn y sylw coffa arno yn y Cyfarfod Misol fe ddywedid ei fod yn un o'r ddau flaenor hynaf yn Arfon. Yr oedd yn gynllun gweddol dda o flaenor Methodist o'r hen stamp. Fe'i hystyrrid ef yn wr pwyllog, call, cyfrwys, dyfal, di-ildio. Er yn ddi-ildio yn ei bwnc, eto wedi i'r ochr wrthwynebol drechu drwy fwyafrif, fe gyd-weithredai yntau, canys yr oedd yn gyfrwys yn gystal ag yn gryf. Fe briodolir iddo ddylanwad personoliaeth gan Mr. Henry Owen. Nis gellir yn hawdd gyfrif am ei ddylanwad ar wahan i hynny. Hollol gyffredin ydoedd o ran ei ddeall, ac yn fyrr o fanteision dysg. Yr oedd yn dra ffyddlon fel blaenor, ac yn ddiargyhoedd ei fuchedd. Yn brydlon a chyson ym mhob moddion, yn cefnogi popeth perthynol i'r Corff, yn bwysig ei ddull ym mhob trafodaeth. Y mae llyfr taliadau y weinidogaeth o 1845 hyd 1867 yn ei lawysgrifen ef. Llaw ofalus, yma ac acw yn ymgrebachu, ond gyda'r llinellau i gyd ar hyd y blynyddoedd yn gogwyddo yn union i'r un cyfeiriad. Dameg bywyd Dafydd Rowland yw ei lawysgrifen: y naill a'r llall yn fanwl, gwastad, lled hirfain, go gyfyngedig, eithaf eglur, nemor ddim wedi ei groesi allan, nemor ddim blotiau, ambell gamgymeriad wrth sillebu pethau