anghynefin, ond y cwbl yn gywir yn y cyfrifon, yn dal i'w chwilio, ac yn goddef llygad y goleuni. Dywed Mr. Morris Roberts y rhoe argraff o sancteiddrwydd wrth edrych arno yn llwytho llechi yn y cei. Ar ryw olwg y mae yn syn iddo gyrraedd y fath awdurdod ag a gyrhaeddodd ym Moriah am faith flynyddoedd, ond ar olwg arall y mae'r dirgelwch yn agored i'n llygaid, yn ei ddyfalwch, ei gywirdeb, ei uniongyrchedd i'w nôd. Fe gyrhaeddodd Robespierre y lle blaenaf yn adeg y Chwyldroad Ffrengig yn uchder y chwyldro gyda'r un cymhwysterau, pryd nad oedd ond israddol o ran cylch ei welediad i liaws eraill. Dyma fel y disgrifir ef gan Mr. Evan Jones: "Eisteddai David Rowlands a'i gyd—flaenor William Swaine mewn cadair fahogani ddwyfraich, lle gallai dau eistedd ynddi, o waith David Williams Caepysgodlyn, yr hon sydd i'w gweled eto ym Moriah, yn union dan y pulpud. Gwisgai yn gyffredin dros ei ddillad eraill gob lwyd, laes, hyd ei draed. Tynnai ei law chwith yn arafaidd dros ei wallt du, yr hwn a ddisgynnai dros ei dalcen, fel Puritan perffaith, a chyfodai yn bwyllog iawn oddiar ei eisteddle yn y gadair freichiau. Araf ddringai risiau'r pulpud, ac wedi aros ennyd, a rhoddi trem ddifrifol dros y gynulleidfa, cyhoeddai yn hyglyw, mewn tôn hirllaes, ddolefus. . . Yn y seiat ar nos Sul, pa wr enwog neu anenwog bynnag fyddai wedi siarad, gofalai David Rowlands bob amser ddweyd gair ar ei ol. Yr oedd yn ffyddlon yn yr holl dŷ, ac yn gyfan ryfeddol i'r Parch. David Jones. Pa beth bynnag ddywedai Mr. David Jones, fe'i seliai David Rowlands. . . . David Rowlands oedd yn llywodraethu pawb a phopeth ym Moriah, ac nid yn anheilwng." Os oedd Dafydd Rowland yn ymgrebachu braidd yn ei law-ysgrifen ac yn ei olygwel ar fywyd, yr oedd yn ymhelaethu, yn ol ei allu, at bob achos da. Wrth hebrwng y pregethwr i Nazareth ar bnawn Sul, fe giliai esgeuluswyr oddiar ei ffordd rhag ei ofn. Ei hoff bennill, ebe Mr. Griffith Parry,—Newyddion braf a ddaeth i'm bro. Ar ei wely-ysgafn, pan ofynnwyd iddo un diwrnod, paham y gwenai efe, ei ateb oedd fod ei Dad Nefol yn ffeind iawn wrtho. (Drysorfa, 1868, t. 354.)
Tachwedd 17, 1869, fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Cornelius Davies, Ellis Jones, J. W. Stephens. Symudodd y diweddaf yn fuan i Lechryd, sir Aberteifi.