Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn myned allan o'r tŷ, a'r person cyntaf y cewch afael arno, y cwestiwn cyntaf iddo fydd,— A ddarfu'r postman basio, deudwch?' ac yna mynd i'r tŷ yn siomedig. Ond am y cyfaill yr wyf i yn sôn am dano, ni'm siomwyd erioed ynddo. Ac mi gefais lythyr oddiwrtho yn fy ngwely un o'r nosweithiau yma, ac yr ydw'i wedi dod yma heno i ddweyd ei gynnwys wrthych chwi fel eglwys." "Wel, gadewch inni gael cynnwys y llythyr, Mr. Ellis," ebe'r gweinidog. "Dyma fo i chwi," ebe yntau,—"Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd. Wander— ing Jew ydw'i wedi bod, weithiau yma ac weithiau acw. Owen Ellis—North, South, East, West!—ond Iesu Grist ddoe a heddyw yr un—ac yn dragywydd! Nid yw fyth yn symud o'i centre. Y fath Waredwr ardderchog!"

Fe roir yma ddyfyniadau o Ddyddlyfrau Thomas Lewis. "1851, Mai 28, Penrallt, cyfarfod eglwysig. ———— yn dod yno i aflonyddu ar ol cael ei dorri allan y tro cynt. Mehefin 10, cyf arfod eglwysig. ———— (sef yr un gwr ag o'r blaen) yno yn aflonyddu ein cynhulliad. 17, cyf. eglwysig. Caed heddwch gan ———— (yr un gwr eto). Rhagfyr 30, cyf. eglwysig. Trowd allan ———— oherwydd ei gysylltiad â ———— (y gwr blaenorol), yn anfon llythyrau dienw, ac hefyd yn rhoddi celwyddau digywilydd ar society Penrallt a'u hanfon i'r cyhoeddiad gwaradwyddus a elwir yr Haul. 1853, Rhagfyr 19, cyfarfod brodyr yn achos fod rhai yn tyrfu am i'r merched gael votio wrth godi blaenoriaid newyddion. 1854, Ebrill 26, cyfarfodydd gweddïau am 10, 2 a 6, yn cael eu cynnal drwy'r deyrnas yn ol gorchymyn y llywodraeth yn achos y rhyfel [y Crimea]. Tach. 27, y pregethwyr yn dechre myned ar gylch i letya yn lle'r tŷ capel. 1858, Tach. 4, Parch. Dd. Jones yn ymadael o'r dref i fyw i Dreborth. 1860, Ionawr 9, Llun. Am 10, 2 a 6, ym Moriah, cyfarfod gweddiau. Yr oedd yr holl dref yn cadw heddyw o'r bron mor gysegredig a'r Saboth. 10, am 2, ym Moriah, cyfarfod gweddi rhagorol o dda. 1861, Ionawr 8, nos Fawrth yng nghapel y Wesleyaid, cyfarfod eglwysig undeb, Wesleyaid, Anibynwyr a Methodistiaid. Cyfarfod da iawn. Chwefror 26, cyf. eglwysig. Terfysglyd yn achos ———— 1871, Chwefror 15, cyfarfod brodyr yn achos Hughes yr artist [sef ynghylch cyfreithlondeb ymwneud âg ysbrydion]."

Ebrill 25, 1871, bu farw Griffith Jones, yn 58 mlwydd oed, ac wedi bod yn pregethu am tua 34 blynedd. Brodor o Lany-