mawddwy. Symudodd yma o Rostryfan yn 1859. Ystyrrid ef yn ddyn o allu ac yn ysgrythyrwr da. Byddai mewn gryn lafur wrth draddodi, yn plygu ei gorff, ac yn estyn ei fraich allan a'i thynnu ato ar hanner cylch, ac mewn ymdrech yn rhoi'r llais allan, ac megys yn bwhwman braidd. Yr oedd y dull hwn i'w erbyn gyda'r gwrandawyr. Yr oedd y cyflead o'i fater yn syml, ac yr oedd yn wr diymhongar, diddichell. (Drysorfa, 1871, t. 487.)
Yn 1873 cychwyn achos Seisnig Turf Square. Aeth 40 yno o Foriah. Traul y tir, £550; yr adeilad, £800. Talwyd y naill a'r llall gan Moriah.
Hydref 14, 1875, cynhaliwyd cyfarfod sefydlu'r Parch. Evan Jones. Efe oedd y cyntaf a etholwyd gan yr eglwys i'r swydd o weinidog. Daeth yma o'r Dyffryn, sir Feirionnydd. Rhif yr eglwys yn 1875, 619.
Dilewyd y ddyled, £1,805. 19s. 10c., gan gynnwys y llogau, yn 1876, blwyddyn jiwbili y capel. Yr oedd £20 mewn llaw, a defnyddiwyd hwy i gychwyn llyfrgell. Cynhaliwyd cyfarfod pregethu, Rhagfyr 12, 13, pryd y pregethwyd gan R. Lumley, Owen Thomas, Joseph Thomas. Yr un flwyddyn y dechreuodd D. O'Brien Owen bregethu. Wedi bod yn weinidog yn Llanfrothen a'r Amerig, sefydlodd yma, Medi 1, 1891, fel goruchwyliwr y Llyfrfa, ar ei chychwyniad. Bu Mr. Robert Williams yn aros yma yn ystod ei flynyddoedd athrofaol, cystal a'i fod wedi ei fagu yma. Wedi hynny yn weinidog eglwys Seisnig Dolgelley. Yn ystod 1875-6 y dechreuodd y plant ddweyd eu hadnodau yn y seiat ganol yr wythnos. Dechreuwyd cynnal seiat flynyddol i'r plant, Ionawr 1, 1878.
Bu farw John Wynne, Hydref 9, 1876, oddeutu 83 oed. Daeth yma o Dremadoc, gan ddilyn John Williams fel ysgolfeistr, a fu am fyrr dymor yn olynydd Mr. Lloyd. Yr ydoedd yma yn 1821, ac yr ydoedd yn un o ymddiriedolwyr y capel presennol. Bu'n ysgolfeistr llwyddiannus. Bu'n pregethu am ysbaid o amser. Meddai ar ddoniau poblogaidd. Yr ydoedd yn gryf o gorff, yn naturiol yn hyderus, a chyda rhwyddineb ymadrodd, ac iaith ddawnus, a llais cyrhaeddgar. Meddai ar feddwl craff a gwybodaeth amrywiol. Fe ddengys ei lyfr bychan ar sir a thref Caernarvon, a ddygwyd allan yn 1860, ei ysbryd ymchwilgar a'i ddyddordeb mewn pethau cyffredin. Ym mlynyddoedd toriad allan dirwest, yr oedd yn siaradwr ffraeth a