dyddorol ar y pwnc. Yn ei hen ddyddiau, yr oedd golwg darawiadol arno, gyda'i gorff cryf, cymesur, ei wallt gwyn, ei edrychiad go graff. Yn 80 oed yr oedd yn heinif, yn llawn ysbryd ac asbri. Ymunai mewn ymddiddan gyda pharodrwydd, ac mewn dadl gydag awch, a byrlymai allan ymadroddion gogleisiol. Fel yr ae'r ddadl ymlaen, fe dorrai i mewn gyda rhuthr llais, ac ymorchestai mewn ymadroddion hedegog a gwatwarlym. Yn ei lyfr y mae wedi cyfyngu ei hun i'r syml a'r plaen. Yr oedd cylch ei ddyddordeb yn drefol, gwladol, crefyddol. Y mae Mr. Evan Jones yn cyfeirio ato, oddiar ei atgof am dano yn 1856-7, fel yma: "Un o'r rhai mwyaf anibynnol ei feddwl, a pharotaf i'w ddweyd lle y teimlai fod angen, oedd Mr. John Wynne, . . . un yr oedd gan bawb, gwreng a boneddig, yn y gwaelod, y parch dyfnaf iddo. Gwr ydoedd ar hyd ei oes. heb i lawer ei adnabod. Un nos Saboth, mi a'i gwelaf yn codi yn ei sedd ar ganol y llawr, yn urddasol yn ei ffunen wen, a phawb yn disgwyl wrtho. Ei destyn y noswaith honno oedd Diotrephes. Gwr yn camdroi ei ffyrdd oedd Deio,' a gormeswr creulon gyda hynny. Os byddai ar rywun eisieu pregethu tipyn, eisieu rhybuddio dynion rhag cyfeiliorni eu ffyrdd, safai Deio' yn union ar ei ffordd. . . . Ym mhob man, gyda phob peth, yr oedd 'Deio' ar y ffordd o hyd. Gwyddai pawb yn dda pwy oedd 'Deio. Ond. . . . yr oedd sicrwydd yn eu meddyliau nad oedd y fflangell yn effeithio dim ar groen crocodeilaidd' Deio.'"
Sefydlwyd y Gymdeithas Lenyddol yn 1877, y gweinidog yn llywydd, yr hyn y parhaodd i fod dros dymor yr hanes hwn. Rhif y Gymdeithas yn 1880, 62; yn 1887, ar ol derbyn y chwiorydd iddi, 99. Yn 1894, anrhegodd y Gymdeithas y llywydd â'i lun, o waith Mr. Leonard Hughes, ac âg anerchiad o waith Mr. S. Maurice Jones.
Hydref 5, 1878, bu farw Evan Williams yn 62 oed, yn pregethu ers tua 30 mlynedd. Brodor o Ledrod gerllaw Aberystwyth. Bu'n gwasanaethu fel cenhadwr ymhlith Cymry Llundain am 4 blynedd. Dechreuodd bregethu yn y Wyddgrug. Daeth i Gaernarvon yn 1851. Yr ydoedd yn lluniedydd personau a golygfeydd. Tynnodd luniau Eben Fardd, Edward Morgan a Dafydd Jones yn llwyddiannus, er na pherthynai iddo ragoriaeth uchel yn y gelfyddyd. Ystyrrid gan rai y meddai ar ragoriaeth amlwg mewn tynnu llun dwfr mewn golygfa. Rhoes