Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dref yn y cei, ac fel y deuai Evan Williams ato i edrych ei waith, disgynnai ychydig ddiferion o wlaw. "I must put my picture up," ebe'r arlunydd. "Don't grudge and grumble because of the rain," ebe Evan Williams. Agorai yr arlunydd ei lygaid mewn syndod. "I don't grudge and grumble," ebe fe, er yn lled addfwyn, canys fe welai fod y gwr a'i cyfarchai o ddull boneddig a go urddasol. Ei fuchedd fu'n wastad a diar- gyhoedd, heb achos beio arno. Ar ymweliad â'r Parch. Thomas Hughes yn ei waeledd maith, gofynnodd Thomas Hughes, Prun ohonom gaiff fynd i'r nefoedd gyntaf, tybed?" "Nid yw fawr o wahaniaeth am hynny; cael mynd yno yw'r pwnc mawr," ebe yntau, heb feddwl nemor, fe ddichon, mai ef ei hun a elai gyntaf. (Adroddiad yr Eglwys.)

Bu Thomas Hughes farw, Mawrth 13, 1879, yn 71 oed, wedi bod yn pregethu am 47 mlynedd, ac yn preswylio yn y dref er 1843. Efe oedd yr hynaf yn y swydd o weinidog yng Nghyfarfod Misol Arfon, wedi ei ordeinio yn 1841. Eglwyswyr oedd y teulu ar y cychwyn, ac aeth nai iddo yn offeiriad yn eglwys Rufain. Fe dybir mai efe oedd y pregethwr cyntaf a aeth i athrofa'r Bala, ac yr oedd gradd o wresogrwydd yn nheimlad y Dr. Lewis Edwards tuag ato, oherwydd y cysylltiad boreuol hwnnw, ac yn ei dy ef y lletyai'r Dr. pan yn pregethu yn y dref. Ni wyddis a oedd arddull arafaidd a phwyllog y Dr. o lefaru wedi dylanwadu arno, ond os felly aeth tuhwnt i'w athro. Y mae'n sicr, pa ddelw bynnag, fod y dull hwnnw yn eithaf naturiol iddo ef. Eithr, er bod yn naturiol iddo ef, yr oedd yn feichus i'w wrandawyr. Fe gymerodd bum munud wrth y gloch, ar un adeg, i ddarllen ei destyn ddwywaith drosodd, sef dwy adnod o Lyfr Deuteronomium. Seinid pob sill yn bwysleisiol, gyda gwagle rhyngddi a'r sill nesaf, yn Deu-ter-on-om-ium. Bu'r dull hwn yn fwy neu lai nodweddiadol o'r Corff, ond y mae bellach wedi myned heibio, neu ar fyned. Nid oedd y meddyliau chwaith, fel eiddo'i athro, yn drymion. Mewn tôn hirllaes a thrymaidd y traddodai ei genadwri, a phregethai yn lled faith. Eglur, syml, diaddurn oedd y mater. Fe ddywedodd y Dr. Owen Thomas, mewn sylwadau coffadwriaethol arno yn y Gymdeithasfa, gan ddyfynnu ymadrodd Joseph Thomas, y byddai'n cymeryd gafael yn asgwrn cefn ei destyn. Eithr ni feddai yn hollol mo'r treiddgarwch meddwl a awgrymir yn y dywediad yma. Fe grynhoai ynghyd bob amser faterion per-